Skip to main content

Wales’ First Tram Trains

31 Gor 2023

Mae trenau tram trydan newydd sbon a fydd yn chwyldroi trafnidiaeth ar draws cymoedd De Cymru wedi cael eu dadorchuddio mewn depo newydd gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf.

Fel rhan o brosiect Metro De Cymru a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru, y cerbydau rheilffyrdd ysgafn yw'r cyntaf i gael eu cyflwyno yng Nghymru, gan weithredu ar linellau trydan a phŵer batri. 

Wrth deithio hyd at 100 km yr awr ar y rheilffordd byddant hefyd yn gallu teithio ar hyd llinellau tram. Mae’r trenau-tram yn 40 metr o hyd ac mae ganddynt y gallu i gludo hyd at 252 o deithwyr.

Mae'r gwaith ar ddepo newydd Ffynnon Taf sy'n werth £100 miliwn yn mynd rhagddo yn dda a dyma lle bydd cartref Metro De Cymru.  Yno, fe ddarperir rheolaethau trydanol a signalau ar gyfer y rhwydwaith yn ogystal â depo cynnal a chadw ar gyfer y trenau tram newydd.

Mae'r ganolfan reoli bellach yn weithredol ac yn darparu signalau ar gyfer trenau ar reilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr.  

Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd. 

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:

“Rydym yn gwneud cynnydd enfawr yn ein depo yn Ffynnon Taf a bellach, mae’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyn yn hyn yn amlwg i’w weld.  Mae'r depo cynnal a chadw a'r ganolfan reoli eisoes wedi'u hadeiladu ac yn adeiladau amlwg iawn ar y safle; mae'r cledrau rheilffordd sy'n cysylltu'r depo â'r brif linell hefyd wedi'u gosod.

“Mae ein trenau tram newydd wedi cyrraedd ac wrthi'n cael eu profi ar hyn o bryd yn y depo ac ar linellau'r cymoedd.  Rydym eisoes wedi trydaneiddio cam cyntaf llinellau y cymoedd a byddwn yn parhau i wneud hynny dros y misoedd nesaf.

“Mae'n gyfnod cyffrous iawn i Dde Cymru gan y bydd y depo yn ogystal â'r trenau tram hyn yn chwyldroi trafnidiaeth yn y rhanbarth.”

Ychwanegodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol:

“Mae ein Trenau Tram Dosbarth 398 Citylink, a adeiladwyd gan Stadler, bellach wrthi'n cael eu profi ar y rhwydwaith yn Ne Cymru a golyga hyn ein bod gam arall yn nes at ddarparu Metro De Cymru.

“Rydym wedi archebu 36 o'r trenau tram 3 cerbyd hyn; mae digonoedd o le arnynt ac maent yn werth i'w gweld.  Mae lle arnynt i feiciau, seddi i bobl â llai o symudedd a mannau i gadair olwyn.

“Mae'r cerbydau rheilffordd ysgafn hyn wedi'u cynllunio i gysylltu canol dinasoedd ag ardaloedd anghysbell.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu hychwanegu at ein rhwydwaith dros y misoedd nesaf.”