- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
18 Awst 2023
Mae dros 100,000 o gwsmeriaid wedi teithio ar wasanaeth diweddaraf TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ers ei ail-lansio pryd ymgorfforwyd bysiau trydan i'r gwasanaeth yn gynharach eleni.
Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu o 16,000 ym mis Mawrth i 19,000 ym mis Ebrill, 23,000 ym mis Mai a 26,000 ym mis Mehefin a'r un fath eto ym mis Gorffennaf.
Mae'n gynnydd cyffredinol o 36,000 o deithwyr o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig Trafnidiaeth Cymru:
“Mae'r gwasanaeth a ail-lansiwyd wedi canolbwyntio ar ddarparu'r profiad gorau posibl i'n teithwyr tra'n cadw prisiau tocynnau'n fforddiadwy.
“Rydym yn hapus iawn gyda pha mor lwyddiannus y mae'r gwasanaeth wedi bod yn ystod y chwe mis cyntaf ers cyflwyno'r bysiau newydd. Ein ffocws nawr yw parhau i wella ein gwasanaeth yn dilyn adborth defnyddwyr.”
Gwasanaeth T1 TrawsCymru, a weithredir gan First Cymru, yw'r contract bws cyntaf i gael ei reoli gan TrC.
Mae'r bysiau a ddefnyddir ar y gwasanaeth yn fodern tu hwnt, ac maent yn gweithredu o ddepo pwrpasol newydd yng Nghaerfyrddin. Mae'r teithiau a wna'r bysiau trydan hyn ymysg rhai o'r teithiau bws trydan hiraf yn y DU – mae’r daith yn ôl ac ymlaen yn 104 milltir.
Mae pob cerbyd yn arbed 3kg o CO2 fesul taith gyflawn, sy'n cyfateb i dros 12,700 cwpan o de.
Mae'r bysiau'n cynnig nifer o nodweddion rhagorol a modern gan gynnwys goleuadau darllen, byrddau, gwefru diwifr a socedi USB, cadeiriau gyda breichiau, sgriniau gwybodaeth a system puro aer.
Dywedodd Marie Cronin, Rheolwr Gweithrediadau First Cymru:
“Pleser yw gallu bod yn rhan o lwyddiant gwasanaeth T1 TrawsCymru. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid, a chyda'r busiau trydan hyn yn darparu technoleg o'r radd flaenaf a nodweddion sy'n gwella profiad ein cwsmeriaid, mae'r nifer cynyddol o deithwyr yn dyst i'r buddsoddiad hwnnw."
Ar y bysiau, mae’r wybodaeth a’r cyhoeddiadau am y safle bws nesaf yn ddwyieithog; mae hyn yn cefnogi ein defnyddwyr sydd a namau gweledol a/neu glyw a phobl sy'n newydd i deithio ar fws, y rheini sy'n anghyfarwydd â'r llwybr neu'r rheini sydd a diffyg hyder.
Mae teithwyr sy'n teithio i orsafoedd trenau yn elwa ar gyhoeddiadau byw ynghylch pryd amseroedd gadael ein trenau, sy'n cefnogi cludiant integredig ac aml-fodd.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Pleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw bod yn rhan o lansio'r gwasanaeth bws strategol allweddol hwn rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Mae wedi llwyddo i wella llwyddiant y gwasanaeth gyda gwasanaethau Flecsi - Bwcabws sy'n rhyng-gysylltiol, sy'n ymateb i'r galw ac sy'n rhoi gwybodaeth amser real i deithwyr.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.traws.cymru