- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Mai 2024
Trafnidiaeth Cymru yw'r cwmni trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i lansio Rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffyrdd.
Mae'r rhaglen 4 blynedd yn brosiect ar y cyd rhwng TrC, Prifysgol De Cymru, Llywodraeth Cymru a Choleg y Cymoedd, a bydd yn cynnwys dysgu yn seiliedig ar waith wrth astudio gradd yn rhan-amser yn y brifysgol.
Mae dwy swydd wag ar gael, un yng nghartref newydd Metro De Cymru yn Ffynnon Taf a'r llall yn nepo Treganna.
Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, ni fydd rhaid i brentisiaid dalu ffioedd dysgu, ac mae'r rôl yn cynnig Cyflog Byw Cenedlaethol i ymgeiswyr tra’n dysgu.
Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo i gwblhau'r rhaglen pedair blynedd hon yn derbyn gradd BSc (Anrh) Peirianneg Rheilffyrdd (Systemau Electrofecanyddol ac Electroneg) yn ogystal â chyfoeth o brofiadau gwaith galwedigaethol.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:
"Yma yn Trafnidiaeth Cymru, rydym wrthi’n trawsnewid trafnidiaeth i bobl Cymru, a thrwy wneud hyn, rydym yn darparu mwy o gyfleoedd ac yn gwella ansawdd bywyd pobl.
"Wrth i ni fwrw ymlaen â’r nod hwn, rydym yn recriwtio ac yn uwchsgilio ein gweithlu yn barhaus, a thrwy weithio ar y cyd, gallwn gynnig y Rhaglen Brentisiaeth Gradd Peirianneg Rheilffordd hon i'r ymgeiswyr cywir.
"Mae'n gyfle gwych i ennill cyflog wrth ddysgu ac mae’n helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.”
Mae amrywiaeth yn hynod bwysig i TrC ac rydym yn annog menywod a grwpiau na chânt eu cynrychioli’n ddigonol i ymgeisio ac ystyried gyrfa ym maes trafnidiaeth - fel ein bod yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n well.
Nodiadau i olygyddion
I gwneud cais ewch i - https://trc.cymru/gwybodaeth/ceiswyr-swyddi/ein-swyddi-gwag
Hysbyseb swydd yn fyw ar y 31/05/2024
Dyddiad Cau: 23/06/2024