Mid & W Wales Fire News

21 Oct 2024

Wythnos Diogelwch Canhwyllau 21-27 Hydref 2024

Candle Safety Week 21-27 October 2024

Wythnos Diogelwch Canhwyllau 21-27 Hydref 2024: Wythnos Diogelwch Canhwyllau

A hithau’n nosi’n gynt, mae canhwyllau’n ffordd boblogaidd o wneud cartrefi’n fwy clyd gyda'r hwyr ond mae'n bwysig cofio bod canhwyllau yn fflam agored a all achosi dinistr os cânt eu gadael heb eu goruchwylio.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bob amser yn annog pobl i beidio â defnyddio canhwyllau oherwydd y peryglon sydd ynghlwm â nhw. Mae'n ddealladwy y bydd llawer o bobl am eu defnyddio am nifer o wahanol resymau, boed hynny’n rhan o ddathliad crefyddol neu dymhorol, neu i greu arogl hyfryd yn y cartref yn ystod misoedd tywyllach y gaeaf. Dyma’r adeg berffaith i ailwerthuso risgiau defnyddio canhwyllau ac ystyried defnyddio dewisiadau mwy diogel yn lle.

Dywedodd Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch Tân yn y Cartref:

“Gall defnyddio canhwyllau fod yn ymlaciol a gall fod yn rhan o ddathliad, ond peidiwch â gadael iddynt ddifetha’r achlysur drwy achosi tân a dinistr yn eich cartref.

Mae canhwyllau artiffisial yn opsiwn mwy diogel bob amser, yn enwedig os oes plant ac anifeiliaid o gwmpas. Rydym yn eich annog i edrych ar ein cyngor diogelwch canhwyllau a manteisio ar ein Gwiriadau Diogelwch yn y Cartref am ddim."

Mae GTACGC hefyd yn cynnig ymweliadau Diogel ac Iach lle gall y tîm Diogelwch Cymunedol roi cyngor naill ai dros y ffôn neu ymweld â'ch eiddo i ddarparu cefnogaeth ar ddiogelwch yn y cartref. Gallwch archebu eich ymweliad trwy ffonio 0800 169 1234 neu archebu ar-lein ar Ymweliad Diogel ac Iach - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (mawwfire.gov.uk)

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a hithau’n #WythnosDiogelwchCanhwyllau am awgrymiadau defnyddiol ar ddefnyddio canhwyllau yn ddiogel, neu am fwy o wybodaeth am Ddiogelwch Canhwyllau ewch i: Diogelwch Canhwyllau - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (mawwfire.gov.uk)

Gwybodaeth Cyswllt

Rachel Kestin
Communications, Engagement and Consultation Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226893
r.kestin@mawwfire.gov.uk