- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Hyd 2024
Datganiad ar y cyd: Network Rail a Trafnidiaeth Cymru
Am 7.29y.h nos Lun 21 Hydref, bu gwrthdrawiad cyflymder isel gyda dau drên TrC ger Llanbrynmair ym Mhowys, Canolbarth Cymru. Yn anffodus, bu farw un o’r teithwyr, ac mae nifer o bobl eraill yn cael triniaeth am anafiadau mewn ysbytai cyfagos. Mae'n meddyliau gyda theulu ac anwyliaid y dyn sydd wedi colli ei fywyd, yn ogystal â'r holl bobl eraill a fu'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn.
Bydd rheilffordd y Cambrian i’r dwyrain o Fachynlleth ar gau tra bod timau arbenigol yn parhau â’u hymchwiliadau, ac rydym yn annog teithwyr i beidio â theithio i’r rhan hon o’r rhwydwaith.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gwasanaethau brys a ddaeth i’r lleoliad a helpu ein teithwyr a’n staff mewn amgylchiadau heriol. Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys y gwasanaethau brys, i ddod i wraidd y digwyddiad hwn a byddant yn cael ein cefnogaeth lawn.