- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
25 Hyd 2024
Bydd lein y Cambrian yn ailagor ar gyfer gwasanaethau arferol o ddydd Llun yn dilyn y ddamwain drasig ar y rheilffordd yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru heddiw.
Mae'r timau ymchwilio wedi dod â'u hymchwiliad ar y safle i ben, gan alluogi peirianwyr Trafnidiaeth Cymru i wahanu'r ddau drên a ddifrodwyd, sydd yn y broses o gael eu tynnu oddi ar y safle.
Ar yr un pryd, mae peirianwyr Network Rail wedi bod yn gwneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a chyfres o wiriadau ac archwiliadau diogelwch trylwyr.
Mae systemau diogelwch y trenau sy'n defnyddio'r lein yn parhau i gael eu gwirio a'u harchwilio'n rheolaidd.
Bydd trenau prawf yn rhedeg drwy'r ardal i sicrhau bod popeth yn gweithredu yn ôl yr arfer cyn dechrau gweithrediadau i deithwyr ddydd Llun.
Gall y digwyddiad effeithio ar wasanaethau trên yn y tymor byr o hyd a dylai teithwyr barhau i wirio cyn teithio.
Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a'r Gororau Network Rail:
"Bydd digwyddiadau trasig nos Lun wedi’u serio ar fy nghof am byth ac mae pob un sydd wedi’i effeithio yn fy meddwl o hyd. Diolch byth, mae digwyddiadau fel hyn yn brin iawn ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Rydym yn parhau i weithredu un o'r rhwydweithiau rheilffordd mwyaf diogel yn Ewrop.
"Mae ein peirianwyr wedi bod ar y safle trwy gydol y cyfnod ac wedi cynnal archwiliadau diogelwch trylwyr iawn ac byddwn yn rhedeg trenau prawf drwy'r ardal.
"Dw i’n ddiolchgar i'r gymuned leol sydd wedi bod yn hynod o gefnogol drwy gydol yr wythnos ddiwethaf wrth i ni reoli’r digwyddiad hwn.
"Hoffwn ddiolch hefyd i deithwyr am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i’n timau weithio'n ddiflino i adfer y rheilffordd cyn gynted ag y gallent."
Dywedodd Jan Chaudhry van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC:
"Mae gan y rheilffyrdd yng Nghymru record ddiogelwch dda iawn, felly pan fydd digwyddiadau difrifol fel hyn yn digwydd, rydym ni yn TrC, ynghyd â'n partneriaid yn Network Rail, yn benderfynol o fynd at wraidd yr hyn a'i hachosodd. Am y rheswm hwnnw, rydym yn cydweithredu'n llawn â'r awdurdodau sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn benodol, y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd.
"Rydym wedi gweithio'n galed i glirio'r trenau'n ddiogel o safle’r ddamwain, ac i gynnal gwiriadau a phrofion diogelwch llawn cyn ailagor y lein ar gyfer trenau i deithwyr.
"Rydym yn cydymdeimlo’n arw â theulu'r teithiwr a fu farw, ac yn dymuno gwellhad buan i’r teithwyr a'r aelodau staff hynny a anafwyd yn y gwrthdrawiad."
Nodiadau i olygyddion
O ganlyniad i heriau gweithredol yn dilyn y digwyddiad, ni fydd unrhyw wasanaethau TrC yn rhedeg rhwng Amwythig a Birmingham Rhyngwladol ddydd Sadwrn 26 na dydd Sul 27 Hydref.
Cytunwyd y bydd Rheilffyrdd West Midlands Railways yn derbyn tocynnau ar y llwybr hwn ond awgrymir i gwsmeriaid ddefnyddio llwybr gwahanol lle bo’n bosibl.