- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Hyd 2024
Mae dros 1,700 o bobl wedi ymweld â thirnodau trawiadol Cymru ar y trên hyd yma eleni diolch i bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Cadw.
Mae'r bartneriaeth yn cynnig 2 docyn mynediad am bris 1 i unrhyw un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cadw pan fyddwch yn teithio yno ar y trên. Mae Harlech, Cricieth a Chaerffili wedi dod i'r amlwg fel y safleoedd hanesyddol mwyaf poblogaidd i deithwyr rheilffordd sy'n manteisio ar y cynnig.
I ddathlu'r pen-blwydd, gall cwsmeriaid barhau i dderbyn 2 docyn mynediad am bris 1 i safleoedd Cadw pan fyddant yn dal y trên yno.
Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth Trafnidiaeth Cymru:
"Rydym wrth ein bodd o weld cymaint o bobl yn manteisio ar ein cynnig partneriaeth gyda Cadw.
"Mae teithio ar y trên yn ffordd wych o archwilio Cymru, ac mae nifer y bobl sydd eisoes wedi manteisio ar y cynnig hwn 20% yn uwch na'r llynedd, sy’n dangos poblogrwydd cynyddol y fenter.
"Hoffem ddymuno pen-blwydd hapus i Cadw yn 40 oed!"
Dywedodd Gwydion Griffiths, Pennaeth Marchnata a Datblygu Busnes Cadw:
"Mae'r cynnig rheilffordd 2-am-1 wedi ei gwneud hi'n haws nag erioed i bobl ymweld â'n safleoedd hanesyddol a darganfod treftadaeth gyfoethog Cymru.
"Mae'r cynnydd yn y niferoedd sydd wedi manteisio ar y cynnig yn dyst i boblogrwydd y bartneriaeth hon ac yn ein helpu i ddiogelu a dathlu treftadaeth Cymru, er mwyn i ni i gyd ei chadw."
I wneud y gorau o'r cynnig 2 docyn am bris 1 gwych hwn ac i ddathlu 40fed pen-blwydd Cadw, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno tocyn trên dilys ar gyfer yr un diwrnod â’ch ymweliad. Gallwch chi a chydymaith teithio gael dau docyn mynediad am bris un.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/arbedion-a-chynigion/cadw
Nodiadau i olygyddion
- Gyda thocyn trên dilys ar yr un diwrnod â’ch taith, gallwch chi a chydymaith teithio gael dau docyn mynediad am bris un pan fyddwch yn ymweld â rhai o'r tirnodau mwyaf adnabyddus yng Nghymru.
- Ceir rhagor o wybodaeth am y cynnig yma: Cynnig 2 docyn am 1 i Dirnodau Hanesyddol | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)