English icon English
Pembrokeshire County Council logo - Logo Cyngor Sir Penfro

Datganiad: Safle Tirlenwi Withyhedge

Statement: Withyhedge Landfill

Heddiw mae Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson wedi croesawu'r newyddion bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cymryd camau gorfodi pellach yn safleoedd tirlenwi Withyhedge.

Mae CNC wedi cyhoeddi Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 pellach i weithredwyr y safle Resources Management UK Ltd (RML) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gyflawni cyfres o gamau gweithredu erbyn terfynau amser penodedig i fynd i'r afael ag arogleuon parhaus o'r safle tirlenwi.

Gallwch ddarllen mwy am y Camau Gorfodi ar wefan CNC.

Dywedodd y Cynghorydd Simpson: "Mae'r arogleuon o Withyhedge yn cael effaith fawr ar drigolion ac ymwelwyr. Mae'r sefyllfa hon wedi mynd ymlaen yn rhy hir ac mae'n annerbyniol.

“Nawr mae angen i ni weld RML yn gweithredu ar ofynion yr Hysbysiad ac o fewn y terfynau amser.

"Mae'r Cyngor yn cefnogi safbwynt CNC yn llawn ar orfodaeth bellach, gan gynnwys atal trwydded amgylcheddol y safle, os yw'n briodol, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda CNC i sicrhau datrysiad hirdymor i'r materion hyn."