- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
27 Ebr 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi enwi dau drên newydd ar ôl dinasoedd genedigol perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Cafodd y 'Robin Goch Philadelphia' a ‘Draig Goch Vancouver’ eu dadorchuddio heddiw gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gethin, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, cyn y gêm gartref yn erbyn Stockport.
Roedd Trafnidiaeth Cymru eisiau cydnabod y gwaith a'r effaith gadarnhaol y mae'r perchnogion wedi'i gael yn yr ardal gan gynnwys sut maen nhw wedi helpu'r gymuned leol a busnesau.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething:
“Mae wedi bod yn wych bod yn Wrecsam heddiw a gweld dau o’r ychwanegiadau diweddaraf at stoc Trafnidiaeth Cymru, rhan o’n buddsoddiad o £800m i wella dibynadwyedd a chysur trenau.
“Mae yna wefr go iawn yn Wrecsam y dyddiau yma. Mae Rob a Ryan wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gymuned ac mae’n wych eu bod yn cael eu cydnabod gyda’r trenau newydd, ac rwy’n siŵr bydd pob cefnogwr Wrecsam eisiau teithio ar y trenau newydd mor fuan a phosib.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi rhoi Wrecsam, ei glwb pêl-droed gwych a'r rhanbarth ehangach ar lwyfan byd-eang. Rwy'n falch iawn ein bod yn cydnabod hyn drwy enwi dau o'n trenau newydd sbon, a wnaed yng Nghymru, i’w anrhydeddu.
"Mae'n arbennig o addas ei fod yn digwydd wrth i'r llen gau ar dymor hynod lwyddiannus arall i Glwb Pêl-droed Wrecsam."
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
"Rydym wrthi'n cyflwyno trenau newydd sbon ar draws ein rhwydwaith Cymru a'r Gororau a thrwy gydol y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu i'w henwi.
"Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn defnyddio ein gwasanaethau'n gyson ac mae'n amlwg cymaint mae perchnogion y clwb wedi cyfrannu'n gadarnhaol i'r ardal. Rydym yn falch o enwi ein trenau newydd ar ôl dinasoedd genedigol Ryan a Rob ac edrychwn ymlaen at groesawu cefnogwyr arnynt.”