- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Ebr 2024
Mae bysiau trydan newydd TrawsCymru sy'n rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth wedi gweld cynnydd o 65% yn nifer y teithwyr eleni.
Wedi'u lansio ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd y bysiau newydd o'r radd flaenaf wedi cludo dros 100,000 o deithwyr o fewn eu 6 mis cyntaf ac yn fwy diweddar maent wedi dangos cynnydd cyffredinol o 65% o deithwyr o'i gymharu â 2022/23.
Mae pob cerbyd yn arbed 3kg o CO2 bob taith gyfan ddwy ffordd, sy'n cyfateb i bron i 13,000 cwpan o de.
Mae cynigion hyrwyddo wedi helpu i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth trafnidiaeth gynaliadwy gan gynnwys taith £10 drwy'r dydd i ddau oedolyn a dau blentyn wrth ddefnyddio ein Tocyn Grŵp Haf, tocyn trên a bws integredig ar gyfer teithio rhatach o Gaerdydd i Aberystwyth a 50% oddi ar deithiau yn ystod Mis Dal y Bws ym mis Medi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae hyn yn newyddion gwych i ddefnyddwyr bysiau ac i’r amgylchedd. Mae cyflwyno'r bysiau gwyrddach, modern, mwy cyfforddus hyn yn amlwg wedi annog mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaeth T1 TrawsCymru ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r broses o sicrhau bod hyn yn digwydd."
Dywedodd Mark Jacobs, Rheolwr Contractau a Pherfformiad TrawsCymru: "Roedd lansio gwasanaeth holldrydanol T1 TrawsCymru y llynedd yn foment arwyddocaol yn hanes TrC ac yn ein datblygiad i ddod yn sefydliad gwirioneddol aml-ddull.
"Mae'r adborth ynghylch y gwasanaeth newydd wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac mae'r cynnydd yn nifer y teithwyr yn dangos sut y gall gwell cynnig trafnidiaeth gyhoeddus ddylanwadu'n gadarnhaol ar arferion teithio pobl.
"Mae llwyddiant y fflyd T1 newydd yn ganlyniad i bartneriaeth effeithiol gyda'r timau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a First Cymru, sydd wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i wneud y gwasanaeth bws hanfodol hwn o Gaerfyrddin i Aberystwyth y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus uwchraddol o’r math y mae hi heddiw.