- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
26 Gor 2024
Ag ysgolion ar fin cau ar gyfer gwyliau'r haf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhybudd clir i bobl ifanc am beryglon tresmasu ar y rheilffordd.
Mae Dim Ail Gyfle – ymgyrch diogelwch rheilffyrdd a lansiwyd gan TrC y llynedd - wedi llwyddo i leihau tresmasu ar linellau craidd y cymoedd 45% (ffigurau diweddaraf yn Adroddiad Blynyddol TrC 23/24), ac mae TrC yn parhau i weithio'n galed i leihau nifer y tresmaswyr.
Mae'r ymgyrch wedi cyflwyno gweithdai am ddiogelwch ar y rheilffyrdd i fwy na 20,000 o bobl ifanc mewn 150 o ysgolion ledled Cymru, wedi cynnal arddangosfa fyw yng Nghaerdydd a'r cymoedd a groesawodd dros 750 o bobl ifanc. Yn ogystal, mae wedi dosbarthu taflenni hyrwyddo i bob cartref sydd o fewn 200 metr o reilffordd, arddangos posteri a rhannu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae TrC hefyd wedi dosbarthu 500 o gamerâu a wisgir ar y corff i staff gweithredol ac mae’n gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i helpu gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg TrC:
“Mae tresmasu ar y rheilffordd yn hynod o beryglus a gall ladd. A gwyliau'r ysgol wedi dechrau, rydyn ni'n annog pobl ifanc, eu ffrindiau a theuluoedd i ledaenu'r neges hon i beidio â chymryd risg ger rheilffyrdd, croesfannau a gorsafoedd neu'n agos atynt.
“Dros y 12 mis diwethaf mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed yn hyrwyddo ein hymgyrch Dim Ail Gyfle ac rydym wedi ymweld ag ysgolion ac wedi siarad yn uniongyrchol ag 20,000 o bobl ifanc, wedi cynnal arddangosfeydd a chynhyrchu fideos digidol sydd wedi'u gwylio dros 2 filiwn o weithiau.
“Cofiwch, mae tresmasu yn anghyfreithlon - mae'n eithriadol o beryglus. Peidiwch â mentro, cadwch yn ddiogel.”