- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Gor 2024
Mwy o drenau newydd, cynnydd yn y defnydd o wasanaethau bysiau allweddol a ffyrdd arloesol o brynu tocynnau yw rhai o’r uchafbwyntiau yn adroddiad blynyddol Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw.
Mae cyflwyno 46 trên newydd sbon ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn ogystal â chyflwyno gwelliannau i amserlenni wedi helpu i leihau canslo a chynyddu ffigurau refeniw’r rheilffyrdd, gyda mwy o bobl yn dewis manteisio i'r eithaf ar y cyfforddusrwydd, y cyflymder a'r capasiti a gynigir gan y trenau newydd.
Mae’r arloesedd a welwyd yn y systemau archebu tocynnau newydd yn cynnwys lansio tocynnau Talu Wrth Fynd. Lansiwyd y system fel cynllun peilot i ddechrau gyda, ar deithiau trên rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun, ac mae bellach wedi'i ehangu i gynnwys Glyn Ebwy. Fe welwyd twf o 30% yng ngwerthiant tocynnau ar draws ap TrC.
Ym mis Chwefror 2024 lansiodd TrC wasanaeth newydd Glyn Ebwy i Gasnewydd, sydd wedi chwyldroi’r ddarpariaeth sydd ar gael i gymunedau lleol, gan ddyblu nifer y trenau yr awr, sydd wedi helpu i wella cysylltedd at ddibenion gwaith, addysg a hamdden.
Yn ei adroddiad Blynyddol diweddaraf (2023/24), datgelodd y sefydliad trafnidiaeth nid-er-elw ei fod hefyd wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau bysiau TrawsCymru
Mae'r gwasanaeth T1 blaenllaw rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth wedi gweld cynnydd o 65 y cant yn nifer y teithwyr, tra bod gwasanaeth bws y Sherpa, sy'n gweithredu yn Eryri, wedi gweld cynnydd o 64 y cant o'i gymharu â 2019. Mae'r gwasanaeth T8 yn Rhuthun hefyd wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu gan dros 9,500 y mis.
Mae TrC hefyd wedi llwyddo i ddarparu £46m mewn cyllid teithio llesol sy'n cefnogi 250 o gynlluniau teithio llesol a ddatblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn ystod 2023/24, cyflwynwyd dros 30 o lwybrau cerdded newydd o orsafoedd hefyd.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi bod ar daith o drawsnewid mawr yn TrC ac rydym bellach yn dechrau gweld manteision ein buddsoddiadau.
"Gyda gwell gwasanaethau a threnau gwell, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr sydd, yn ei dro, wedi helpu i gynyddu refeniw ein rheilffyrdd gan 15%. Byddwn yn anelu at gynnal y cynnydd hwn wrth i ni barhau i gyflwyno mwy o drenau newydd fel rhan o'n buddsoddiad o £800 miliwn, yn ogystal â gwneud addasiadau i’n hamserlenni.
"Ein gweledigaeth yw cael ein dewis fel 'hoff ffordd Cymru o deithio' a gallwn wneud hyn drwy barhau â'n buddsoddiad i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig. Rydym wedi gweld cynnydd o 24% yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau bws TrawsCymru ac yn ddiweddar fe wnaethom agor Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd newydd, a fydd yn gwella cysylltiadau rhwng trenau a bysiau.
"Rydym wedi dosbarthu £46 miliwn o gyllid teithio llesol a fydd yn gwella llwybrau cerdded, beicio ac olwynio lleol gan wella cysylltedd lleol, ac rydym wedi lansio dros 30 o lwybrau cerdded newydd sy’n dechrau o’n gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru."
I weld yr Adroddiad Blynyddol llawn – cliciwch yma