- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
17 Gor 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio bwydlen Gymreig arbennig ar eu trenau i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol.
Caiff gwsmeriaid brofiad bwyta unigryw sy'n cynnwys y gorau o gynnyrch Cymru gan gynnwys cig moch gyda baralawr, cyw iâr 'supreme' Caerffili, bara brith gyda sglein a llawer mwy.
Mae'r bwyty unigryw hwn ar gael ar rai o’n gwasanaethau sy'n teithio rhwng gogledd a de Cymru. Caiff yr holl brydau eu coginio gan gogyddion ar fwrdd y trên.
Bydd bwydlen hefyd ar gael i deithwyr yn y dosbarth safonol gan roi cyfle i gwsmeriaid flasu ‘Byrger yr Eisteddfod’ a detholiad o ddiodydd a gynhyrchir yng Nghymru.
Dywedodd Piers Croft, Cyfarwyddwr Ar Fwrdd Trenau Trafnidiaeth Cymru:
"Mae bwydlen yr Eisteddfod yn mynd y tu hwnt i flas yn unig. Mae'n cynnig cyfle i'n teithwyr brofi blas yr Eisteddfod ei hun. Mae'r cyfle unigryw hwn yn dathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig wrth fwynhau pryd o fwyd blasus a rhagorol."
Ychwanegodd Lowri Joyce, Arweinydd Strategol y Gymraeg yn TrC :
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio'r fwydlen Gymreig arbennig hon ar ein trenau i ddathlu'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Fel brand cwbl ddwyieithog, mae TrC eisiau dathlu ein hiaith, diwylliant a phopeth mae'n ei olygu i fod yn Gymraeg. Rydym yn bartner allweddol yn y digwyddiad eleni a byddwn yn annog y rhai sy'n teithio i'r Maes i chwilio am opsiynau teithio cynaliadwy ac os cewch gyfle, rhoi cynnig ar ein bwydlen arbennig."
Nodiadau i olygyddion
Mae ein gwasanaeth dosbarth cyntaf gyda chegin ar gael ar ein trenau Dosbarth IV (Mark IV) rhwng Abertawe - Manceinion a Chaerdydd - Caergybi.
I weld pa wasanaethau sydd â bwytai, ewch i'n Cynlluniwr Teithiau a chwilio am drenau gyda thocynnau Dosbarth Cyntaf.
Yr unig beth sy'n rhaid i gwsmeriaid sy'n teithio ar y trên ei wneud yw sganio cod QR o'u sedd, dewis o'r fwydlen a bydd y gwesteiwr cwsmeriaid yn gofalu am bob dim arall.
Mae bwydlen yr Eisteddfod ar gael tan 10 Awst felly eisteddwch yn ôl a mwynhewch bryd o fwyd rhagorol wrth deithio i'r Eisteddfod.