- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
18 Gor 2024
Heddiw, 'ryn ni'n dathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth Changing Places ac rydym yn falch o gyhoeddi bod Toiledau Changing Places newydd ar draws y rhwydwaith sy'n gwneud teithio'n fwy hygyrch a chyfforddus i bawb.
Beth yw Toiledau Changing Places?
Toiledau sydd â mwy o gyfarpar arbennig ynddynt na thoiledau hygyrch safonol Toiledau Changing Places. Mae mwy o le ynddynt yn ogystal ag offer hanfodol er mwyn bodloni anghenion pobl sydd ag anableddau dysgu dwys a niferus neu sydd ag anableddau corfforol, anafiadau i'r asgwrn cefn, dystroffi'r cyhyrau a sglerosis ymledol er enghraifft.
Ym mhob un o'n toiledau Changing Places, mae offer priodol, gan gynnwys mainc newid ag offer codi, offer sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo pobl anabl.
Ble alla i ddod o hyd i Doiled Changing Places?
Bellach, mae gennym 10 Toiled Changing Places ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys:
- Aberystwyth
- Bangor
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerfyrddin
- Caer
- Llandudno
- Parcffordd Port Talbot
- Y Rhyl
- Amwythig
- Abertawe
Mae ein Toiled Changing Places diweddaraf ar gael yn ein Cyfnewidfa Fysiau newydd yng Nghaerdydd.
Dyma Dr Robert Gravelle o adran Mynediad a Chynhwysiant Aml-ddull TrC:
“Mae'r cyfle i'r gymuned anabl gael mynediad at doiledau changing places diogel ac o ansawdd uchel oddi cartref yn hanfodol.
“Mae TrC yn awyddus i sicrhau bod mwy o’r cyfleusterau cymunedol pwysig hyn ar gael ar hyd rhwydwaith cyfan TrC. Mae hyn i gefnogi annibyniaeth ein cwsmeriaid, nid yn unig yn eu defnydd o'n rhwydwaith trafnidiaeth sy'n ehangu; ond hefyd i gydnabod y manteision y mae Toiledau Changing Places yn eu darparu o ran cynhwysiant a chyfleoedd ar gyfer cymdeithasu, addysg a chyflogaeth.”
Ychwanegodd Alun o Banel Hygyrchedd TrC;
“Yn ein Toiledau Changing Places, mae digon o le ynghyd â thoiled penrhyn (peninsular) (toiled gyda lle bob ochr iddo i gadair olwyn neu gymorth gofalwr), mainc newid, offer codi, addaswyr uchder a rheiliau llaw.
Amcangyfrifir bod chwarter miliwn o bobl yn y DU yn dibynnu ar doiledau Changing Places er mwyn gallu teithio'n gysurus a diogel. Maent yn arbennig o bwysig i bobl sydd angen newid padiau anymataliaeth a bagiau stoma ac i sicrhau bod gan bobl ifanc ac oedolion y toiledau priodol i allu ymdrin â'u hanghenion toiled heb effeithio ar eu 'hurddas' a chael eu gorfodi i ddefnyddio cyfleusterau newid babanod.”