16 Rhag 2024
Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Sir Gâr wneud cais am gyllid i gefnogi mannau diogel a chynnes i drigolion dreulio amser ynddynt y gaeaf hwn.
I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, mae'n rhaid i grwpiau neu sefydliadau:
Gall grwpiau a sefydliadau ledled y sir wneud cais am gyllid rhwng £1,000 a £2,500.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi:
“Rydym yn annog grwpiau a sefydliadau cymunedol sydd am ddarparu mannau agored a chynhwysol yn eu cymunedau i wneud cais am gyllid.”
“Bydd y mannau hyn yn darparu cynhesrwydd, lluniaeth a gweithgareddau cymdeithasol i unrhyw un sydd mewn angen y gaeaf hwn ac rydym yn croesawu ceisiadau ar ran mannau cynnes newydd a rhai presennol.”
Gellir defnyddio grantiau llwyddiannus i dalu am gostau staff, costau gwirfoddolwyr, gweithgareddau a deunyddiau. Gellir hawlio hyd at £50 y dydd tuag at argostau megis gwresogi a thrydan yn ogystal ag uchafswm o £300 dros dri mis tuag at luniaeth.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12 pm ar 6 Ionawr 2025. Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 13 Ionawr. Rhagwelir na fydd yn bosibl ariannu'r holl geisiadau.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am gyllid ffoniwch 01269 590216 neu ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r cyllid hwn yn cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk