- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Rhag 2024
Wyddoch chi y gallwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd llawer o arfordir trawiadol Cymru?
Mae Railwalks.co.uk wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy a hyrwyddo rhyfeddodau arfordir Cymru. Cymru yw eu man dechrau, a hynny am fod modd “cerdded o amgylch pob cam o arfordir Cymru” ac maent yn gwybod pa mor awyddus yw TrC i hyrwyddo defnyddio'r trên i gyrraedd llwybrau cerdded.
Maent wedi creu tudalen we bwrpasol sy'n arddangos 35 o deithiau cerdded sy’n para diwrnod anhygoel ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, llwybrau y mae modd eu cyrraedd ar y trên.
Mae gan y map deithiau cerdded arfordirol ar gyfer pob lefel ffitrwydd: ymlwybro o amgylch Bae Caerdydd i heicio ar hyd arfordir clogwynog Sir Benfro.
Mae llawer o fanteision i gyrraedd llwybrau cerdded ar y trên:
- Teithio di-straen: Teithiwch ar y trên i gyrraedd eich taith gerdded neu olwynio – nid oes rhaid i chi boeni am ddod o hyd i le i barcio'r car na thagfeydd traffig.
- Hwyl i'r teulu: Wyddoch chi y gall plant deithio am ddim ar ein gwasanaethau gydag oedolyn sy'n prynu tocyn? Mae'n ddiwrnod allan cost effeithiol i'r teulu.
- Teithiau cerdded llinol: Mae cerdded rhwng gorsafoedd trenau yn golygu nad ydych chi'n dyblygu'r daith.
Mae Steve Melia, un o sylfaenwyr Railwalks ac awdur llyfrau teithio yn tynnu sylw at fantais allweddol arall:
“Mae cyrraedd llwybr cerdded arfordir Cymru gan ddefnyddio’r trên fantais arbennig dros yrru – does dim rhaid i chi fynd yn ôl i'r man lle gwnaethoch chi ddechrau.
Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau gwe newydd hyn yn annog llawer mwy o bobl i roi cynnig arni.”
Dywedodd Andy Stevenson, un arall a sefydlodd y busnes a dylunydd a gwneuthurwr:
“Mae wedi bod yn ymarfer mapio cymhleth ond yn werth chweil.
Rwy'n mawr obeithio y bydd y map yn helpu eraill i roi cynnig arni a manteisio ar gymaint o'r llwybrau y mae modd eu cyrraedd o ddefnyddio'r gorsafoedd trenau ar hyd yr arfordir."
Dywedodd Mel Lawton, Arweinydd ein Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol:
“Bydd yr adnodd hwn yn helpu mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy a gweld dros eu hunain mor ysblennydd yw arfordir Cymru. Defnyddiwch railwalks.co.uk a'n gwefan i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith gerdded nesaf.”
Ydych chi'n barod i ddechrau ar eich taith gerdded gan ddefnyddio un o’r gorsafoedd trên ar hyd arfordir Cymru?
Rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen, cyrraedd am eich tocyn trên a pharatoi i brofi Cymru un cam syfrdanol ar y tro!