17 Rhag 2024
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am ddiolch yn fawr iawn i'r holl staff a thrigolion a fu'n gweithio'n ddiflino yn ymateb i'r amodau anodd iawn yn ystod Storm Darragh ac i'r rhai sy'n parhau i ymwneud yn helaeth â'r gwaith adfer a barhaodd dros benwythnos arall ac a allai fod yn her am wythnosau lawer i ddod.
Roedd y storm wedi tarfu ar nifer o wasanaethau'r Cyngor - o briffyrdd a gofal cymdeithasol i lawer o adeiladau yn gorfod cau, ond roedd canolfannau hamdden yr Awdurdod Lleol wedi agor eu drysau fel canolfannau galw heibio, a fu o gymorth mawr i drigolion a oedd heb drydan a chyfleustodau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Ar ran y Cyngor Sir hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar yr ydym am ymdrech ein staff. Gallem sôn am gynifer ohonynt, a byddem yma am amser hir yn mynd trwy bob gwasanaeth yr effeithiwyd arno. Mae'r modd y gwnaethant ymateb yn rhywbeth y dylent fod yn falch iawn ohono. Rydym wedi clywed am gynifer o enghreifftiau o staff a aeth y tu hwnt i'w rolau pob dydd. Rydych chi'n gwybod pwy ydych chi, diolch yn fawr.
“Hoffwn ddiolch hefyd i'n cymunedau, ein trigolion a gwirfoddolwyr sydd wedi mynd yr ail filltir yn ystod yr wythnos ddiwethaf hon wrth gadw golwg ar gymdogion agored i niwed, helpu i glirio coed o'r ffyrdd ac wrth agor canolfannau galw heibio ychwanegol yn eu cymunedau.
“Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd llawn straen i lawer, ond unwaith eto mae'n ein staff a'n trigolion wedi dangos ein bod yn dîm gwych, yn gweithio gyda'n gilydd o dan amgylchiadau anodd ac addasu i sefyllfaoedd sy'n newid yn barhaus.
“Unwaith eto, diolch yn ddiffuant i chi”
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk