27 Rhag 2024
Llongyfarchiadau i'r gwirfoddolwyr ym Mharc yr Esgob, Abergwili sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith drwy Wobr y Brenin am Wasanaethau Gwirfoddol (KAVS). Mae'r parc a'r gerddi, sydd o amgylch amgueddfa'r sir, wedi cael eu hadfer gan Ymddiriedolaeth Porth Tywi, gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac erbyn hyn mae yno ganolfan ymwelwyr sydd â chaffi poblogaidd.
Yn cyfateb i MBE, KAVS yw'r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU, ac fe'i dyfernir am oes.
Cyflwynodd Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, eu gwobr i wirfoddolwyr Parc yr Esgob mewn cinio dathlu yn ystod yr haf.
Dywedodd Betsan Caldwell, Cadeirydd yr ymddiriedolaeth elusennol sy'n rheoli'r parc:
“Ein huchelgais hirdymor erioed oedd rhoi Parc yr Esgob ar y map fel cyrchfan ragorol i ymwelwyr grwydro gerddi hardd wedi'u tirlunio, parcdir a golygfeydd ar draws dyffryn Tywi, darganfod bywyd gwyllt a hanes diddorol, a mwynhau manteision bod yn yr awyr agored ym myd natur. Mae'r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr niferus fu'n helpu i wireddu'r uchelgais honno.”
Nid oes patrwm penodol o ran pwy sy'n derbyn gwobr KAVS, ond cydnabyddir bod grwpiau sy'n deilwng o'r wobr yn wirioneddol wych ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w cymuned leol. Maent yn wirfoddolwyr, yn hytrach na staff cyflogedig, sy'n gweithio'n galed i gefnogi gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth ac i gynnal y safonau uchaf ym mhopeth a wnânt.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Llongyfarchiadau i wirfoddolwyr Parc yr Esgob ar wobr haeddiannol iawn. Rydym ni sy'n byw ac yn gweithio ger y parc yn gwybod pa mor dda mae'r gerddi'n cael eu cadw. Mae gwirfoddolwyr i'w gweld yn aml o amgylch y gerddi ac maen nhw'n cyflawni sawl rôl arall hefyd. Rwy'n falch iawn o'u gorchestion a'u llwyddiant yn derbyn y wobr hon.”
Yn ogystal â'r gydnabyddiaeth haeddiannol i'r gweithlu, plannodd yr Arglwydd Raglaw lasbren coeden gyll yn ddiweddar o'r cerflun 'Canopi Coed' yn y parc. Cynllun yw'r 'Canopi Coed' ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines i helpu i annog cymunedau i blannu coed. Mae'r 'Canopi Coed' yn cynnwys 350 o lasbrennau, ac maent i gyd yn cael eu hanfon ar draws y DU, gyda phob sir yn derbyn un.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk