11 Ebr 2025
Heddiw, dydd Gwener 11 Ebrill 2025, mae Cyngor Sir Gâr wedi agor rhan gyntaf llwybr Dyffryn Tywi yn swyddogol.
Mae rhan orllewinol Llwybr Dyffryn Tywi o Abergwili i Nantgaredig tua 4 milltir o hyd ac mae bellach ar agor i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr fel ei gilydd i fwynhau gweithgaredd hamdden di-draffig trwy un o ardaloedd mwyaf hardd Cymru.
Gwyliwch y fideo hwn o'r awyr o Lwybr Dyffryn Tywi, rhwng Nantgaredig a Felin-wen.
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn ei gyfanrwydd yn ymestyn o Abergwili i Ffair-fach, a disgwylir iddo agor yn ystod hydref/gaeaf 2025. Bydd yn darparu llwybr di-draffig 16.7 milltir o hyd gan ddilyn trywydd afon Tywi wrth iddi lifo o Landeilo i Gaerfyrddin, a hynny drwy olygfeydd godidog sy'n cynnwys cestyll, parciau gwledig ac ystadau hanesyddol yn ogystal ag atyniadau gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne.
Mae'r datblygiad mawr hwn wedi cael ei gefnogi gan £16.7miliwn gan Lywodraeth DU.
Bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn denu ymwelwyr o bob rhan o Gymru, y DU a thu hwnt gyda'r potensial i gynhyrchu tua £4.4 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, gan greu swyddi mewn busnesau lleol drwy nifer uwch o ymwelwyr a gwariant. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda threfnwyr hamdden, lletygarwch, digwyddiadau presennol a newydd ynghyd â darparwyr llety i sicrhau potensial mwyaf posibl y cyfleuster hwn ochr yn ochr â'r llwybrau di-draffig eraill y mae'r Sir yn eu cynnig.
Mae mynediad i'r llwybr ar gael ger Amgueddfa Abergwili, ac oddi ar y B4310 yng nghanol Nantgaredig, ger y Clwb Rygbi. Bydd mannau parcio ar gael ger tir yr amgueddfa ac yng Ngwesty'r Railway, Nantgaredig, bydd lluniaeth ar gael i'w prynu yn y ddau leoliad.
I'r rhai sy'n hyderus o wneud hynny, gellir cyrraedd y llwybr yn hawdd o ganol tref Caerfyrddin hefyd.
Mae biniau wedi'u darparu mewn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybr ac atgoffir defnyddwyr i gael gwared ar sbwriel a gwastraff cŵn yn gyfrifol.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Rydym yn falch iawn o agor y rhan orllewinol hon o Lwybr Dyffryn Tywi yn swyddogol yn barod ar gyfer gwyliau'r Pasg. Mae'r llwybr di-draffig hwn o'r radd flaenaf yn cynnig cyfle heb ei ail i deuluoedd, ymwelwyr dydd, a thwristiaid brofi harddwch unigryw a syfrdanol Dyffryn Tywi.
“Rwy'n edrych ymlaen at agor y llwybr cyfan, o Abergwili i Ffairfach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar ôl ei gwblhau, bydd Llwybr Dyffryn Tywi nid yn unig yn gwella mynediad i'n trefi a'n pentrefi lleol, dymunol ond hefyd yn rhoi hwb sylweddol i dwristiaeth ledled y sir, gan ddod â nifer o fanteision economaidd."
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk
Yn y llun: Plant o Ysgol Gynradd Nantgaredig, y Cynghorydd Edward Thomas (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith), Arweinydd Cyngor Sir Gâr - y Cynghorydd Darren Price a’r Cyng Hazel Evans (Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth).