
Ysbrydoli cariad at ddarllen gydag awduron lleol
Inspiring a love of reading with local authors
Yn ddiweddar, cymerodd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro ran ym Menter 'Sêr y Silffoedd’ Cyngor Llyfrau Cymru – i ddod â phlant ysgol i lyfrgelloedd i gwrdd ag awduron lleol.
Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, nod y fenter yw ennyn diddordeb disgyblion ysgolion cynradd mewn llenyddiaeth a darllen drwy sesiynau dan arweiniad awduron mewn llyfrgelloedd lleol.
Cymerodd Llyfrgelloedd Doc Penfro, Arberth, Aberdaugleddau ac Abergwaun ran gan groesawu tua 200 o blant mewn sesiynau amrywiol yn ystod mis Mawrth.
Comisiynwyd yr awduron o Gymru Kerry Curson a Rebecca F John i gyflwyno'r gweithdai a oedd yn gyfle gwych i ddysgwyr ryngweithio ag awduron proffesiynol, cael blas ar adrodd straeon a meithrin cariad at ddarllen ac ysgrifennu.
Mwynhaodd Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac Ysgol Gynradd Arberth weithdai "hwyliog", "diddorol" ac "ysbrydoledig" gyda Kerry lle creodd y disgyblion eu straeon eu hunain, dysgu geirfa newydd ac roeddynt yn teimlo’n fwy hyderus yn ysgrifennu wedyn.
Gwnaeth Ysgol Gatholig Sant Ffransis, Ysgol Glannau Gwaun ac Ysgol Wdig fwynhau clywed am ysbrydoliaeth a llyfrau Rebecca yn ogystal â chymryd rhan yn y broses ysgrifennu greadigol ac ymarferion datblygu cymeriad ac roedd sawl un yn awyddus i ddarllen mwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae ein llyfrgelloedd yn fwy na lleoedd i fenthyca llyfrau yn unig ac mae'r fenter hon gan Gyngor Llyfrau Cymru yn un enghraifft o bwysigrwydd llyfrgelloedd yn y gymuned.
“Cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan y disgyblion a gymerodd ran, ac mae'n wych gweld ein pobl ifanc yn meithrin brwdfrydedd dros ddarllen ac ysgrifennu."
Cysylltodd Tracey Johnson, Cydlynydd Safle llyfrgelloedd Abergwaun, Trefdraeth a Thyddewi, â Chyngor Llyfrau Cymru a'r awduron, i drefnu'r amserlen ymweliadau.
Ychwanegodd: "Roedd yn wych gweld cymaint o blant oedran cynradd yn ein llyfrgelloedd, yn mwynhau eu hunain ac yn dysgu mewn ffordd hwyliog.
“Mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu i ddatblygu'r arfer o ymweld â’r llyfrgell yn rheolaidd, er mwyn helpu i annog cariad at ddarllen o oedran ifanc. Mae llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i ymuno, ac mae staff y llyfrgell yma i helpu plant a rhieni sy'n ymweld."