£30m i hybu trafnidiaeth leol yng Ngogledd Cymru
£30m boost for local transport in North Wales
Mae £30 miliwn wedi’i gyhoeddi i awdurdodau lleol wella trafnidiaeth leol ledled Gogledd Cymru.
Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i fynd o gwmpas yn haws ac yn cefnogi economïau lleol drwy well cysylltiadau trafnidiaeth.
Bydd y grantiau yn ariannu prosiectau sy'n:
- gwella cyflwr ffyrdd lleol a mynd i'r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd garw;
- treialu gwasanaethau bysiau newydd ac uwchraddio amseroedd teithio bysiau a chyfleusterau aros;
- creu strydoedd cynhwysol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwynio a beicio;
- gosod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan a fydd ar gael i'r cyhoedd;
- creu llwybrau mwy diogel i blant deithio i ysgolion; a
- gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Mae'r prosiectau a fydd yn elwa yn cynnwys parhau â chynlluniau peilot bysiau hanfodol yn Sir Ddinbych a Gwynedd, gan gynnwys gwasanaeth y T8 a Sherpa'r Wyddfa, gan ddarparu gwell mynediad i gymunedau gwledig at gyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau; cwblhau'r gwaith sy'n weddill i adfer y rhan goll o'r B5605 yng Nghoed Gelli, Newbridge, a gafodd ei difrodi yn ystod tirlithriad ar ôl storm Christoph ym mis Ionawr 2021 a gwelliannau arfaethedig i ddiogelwch ar y ffordd i'r A548 rhwng Llangernyw ac Abergele.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates: "Mae cysylltu cymunedau a darparu gwell trafnidiaeth wrth wraidd y buddsoddiad hwn o £30 miliwn. Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i’r ysgol, i gael gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, gan hefyd adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau go iawn i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, gwell llwybrau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, neu wasanaethau bysiau mwy dibynadwy. Rydym yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod yr arian hwn yn darparu'r manteision mwyaf i gymunedau ledled Cymru."
Mae rhestr lawn o’r prosiectau sydd wedi’u hariannu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/grantiau-trafnidiaeth-awdurdodau-lleol-ddyfarnwyd-2025-i-2026