Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

09 Ebr 2025

Ysgolion Sir Gâr yn treialu bwydlen newydd

Carmarthenshire schools pilot new school menu

Ysgolion Sir Gâr yn treialu bwydlen newydd: Catering staff workshop with Cegin y Bobl cropped

Mae tair ysgol gynradd yn Sir Gâr yn cymryd rhan mewn ymgyrch beilot i ailgynllunio bwydlenni cinio ysgolion cynradd yn y sir, gan ddefnyddio cynnyrch lleol i hyrwyddo iechyd, lles, cynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol ac addysg.

Nod ymgyrch beilot Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol Cyngor Sir Gâr yw alinio arlwyo yn y sector cyhoeddus â pholisïau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, twf economaidd gwledig, a thargedau sero net.

Mae'r Cyngor wedi comisiynu'r sefydliad nid-er-elw lleol, Cegin y Bobl, i weithio gydag Ysgol Teilo Sant, Ysgol Gynradd Llandeilo ac Ysgol Pen Rhos, i greu'r bwydlenni newydd ar y cyd.

Mae staff arlwyo, athrawon, rhieni a phlant yn ymuno â chogyddion ac addysgwyr o Gegin y Bobl i ddatblygu prydau maethlon a fydd yn cael eu gweini yn ffreuturau'r ysgolion. Mae'r bwydlenni wedi'u hailgynllunio i adlewyrchu cynnyrch Cymreig tymhorol, sy'n helpu i gynyddu effaith economaidd leol a lleihau dibyniaeth ar fwyd wedi'i fewnforio.

O ganlyniad, bydd cynnyrch ffres, tymhorol o Fferm Bremenda yn Llanarthne yn cael ei dyfu'n benodol ar gyfer ysgolion ar draws y calendr academaidd. Mae'r fferm 100 erw hon, sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol, yn cael ei defnyddio fel lleoliad prawf i dyfu ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer y plât cyhoeddus. Mae'r fenter hon yn cefnogi amaethyddiaeth leol, yn lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu a chludo bwyd, ac yn cyflwyno plant i fanteision bwyta cynhwysion ffres, lleol.

Bydd y bwydlenni wedi'u hailgynllunio yn cael eu cyflwyno i'r tair ysgol sy'n cymryd rhan ym mis Medi 2025, ac mae cynlluniau i'w cyflwyno ledled y sir ym mis Medi 2026. Bydd ffeil ryseitiau hefyd ar gael fel adnodd ffynhonnell agored i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gan helpu ysgolion eraill i integreiddio arferion bwyd cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol:

Trwy gynnwys cymuned yr ysgol gyfan, rydym yn creu dull cydweithredol o ran dewisiadau bwyd gwell. Ond nid yw hyn yn ymwneud â newid bwydlenni yn unig; mae'n ymwneud â helpu pobl ifanc i ddeall o ble mae eu bwyd yn dod, pam mae'n bwysig, a sut mae'n cysylltu â dyfodol iachach iddyn nhw a'r blaned.

Mae'r ymgyrch beilot hon wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cronfeydd Cefnogi Cwmnïau Lleol ac Arloesi ac mae'n rhan o ymrwymiad ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin o ran bwyd lleol a chynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol.



Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk