24 Apr 2025
Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ymuno â 17 o Wasanaethau Tân ac Achub (GTA) eraill o bob cwr o'r DU i ddarparu offer diffodd tân i ddiffoddwyr tân Wcráin a chyflenwi adnoddau hanfodol yn lle’r rhai sydd wedi'u colli yn ystod y gwrthdaro parhaus yn y wlad.
Cafodd y confoi ei gydlynu gan FIRE AID a'u partneriaid, a'i gefnogi gan Lywodraeth Ei Fawrhydi, a gadawodd y DU ddechrau Ebrill 2025. Dyma'r confoi mwyaf erioed o Wasanaethau Tân ac Achub y DU.
Gan deithio trwy Ffrainc, yr Almaen a Gwlad Pwyl, danfonodd y confoi dros 30 o gerbydau GTA, gan gario mwy na 15,000 o eitemau o offer a roddwyd gan wahanol Wasanaethau Tân ac Achub ledled y DU. Ychwanegodd y confoi at y 119 cerbyd a dros 200,000 o ddarnau o offer sydd eisoes wedi'u rhoi ers i'r ymosodiad yn Wcráin ddechrau yn 2022. Roedd pob GTA a gymerodd ran yn cyfrifo eu hanghenion lleol eu hunain ac yn blaenoriaethu diogelwch eu cymunedau cyn cyfrannu unrhyw offer dros ben.
Yn cymryd rhan yn y confoi ar ran GTACGC roedd y Rheolwr Gwylfa Rob Kershaw, a ddywedodd:
"Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o'r confoi hwn a chynrychioli FIRE AID a GTACGC.
Yn ystod y confoi rydym wedi cael cefnogaeth a chymorth amhrisiadwy gan Wasanaethau Tân ac Achub a Heddluoedd pob gwlad yr ydym wedi teithio drwyddi. Maen nhw wedi ein cynorthwyo i gydlynu a hebrwng y confoi yn ogystal â'n croesawu ar gyfer ein harhosiad dros nos."
Wrth siarad am y ffaith bod GTACGC yn cymryd rhan yn y confoi i Wcráin, dywedodd y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM:
“Mae GTACGC yn falch o fod yn rhan o’r confoi diweddaraf hwn i Wcráin ac i gefnogi cyfrannu a danfon offer diffodd tân hanfodol i’n cydweithwyr yn Wcráin.
Mae’r digwyddiadau yn Wcráin wedi atseinio ar draws cymuned y Gwasanaethau Tân ac Achub ac mae’r confoi hwn yn amlygu ymrwymiad parhaus Gwasanaethau Tân ac Achub y DU i gefnogi Diffoddwyr Tân y wlad.”
Bydd yr adnoddau a gyfrannwyd yn rhoi cefnogaeth werthfawr i Ddiffoddwyr Tân Wcráin, sy'n parhau i weithredu yn ardal y rhyfela, i achub bywydau a diogelu eiddo ac i beidio â chymryd rhan yn yr ymladd, a hyn oll yn aml yn peri risg bersonol fawr. Ers dechrau'r rhyfel, mae 100 o Ddiffoddwyr Tân wedi cael eu lladd a 431 wedi'u hanafu; yn y cyfamser, mae 411 o orsafoedd tân a 1,700 o gerbydau tân wedi'u dinistrio.
Steffan John
Communications Officer
Mid & West Wales Fire & Rescue Service - Carmarthen, Carmarthenshire
01267 226853
07805330632
steffan.john@mawwfire.gov.uk