11 Ebr 2025
Pentywyn, Cymru – 11 Ebrill 2024 – Mae hwyl ac antur wedi dod i Caban Pentywyn wrth i'w Gwrs Gwallgolff 12 twll newydd sbon gael ei lansio'n swyddogol. Cafodd yr atyniad newydd cyffrous ei agor yn swyddogol am 2pm ar 11 Ebrill, gan greu profiad newydd a difyr i ymwelwyr o bob oed.
Roedd y digwyddiad agoriadol mawreddog yn ddathliad gwych, gan groesawu teuluoedd, pobl leol a phobl ar eu gwyliau i fod ymhlith y cyntaf i roi cynnig ar y cwrs hwyliog ac unigryw. Gyda gogoniant Traeth Pentywyn yn gefndir, mae'r cwrs yn cynnwys rhwystrau creadigol, dyluniadau bywiog, a digon o droeon diddorol, sy'n golygu ei fod yn gyrchfan hanfodol i unrhyw un sydd am fwynhau her ysgafn.
Rhannodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ei brwdfrydedd am yr atyniad newydd:
"Rydym yn falch iawn o gael agor y Cwrs Gwallgolff yn Caban Pentywyn yn swyddogol. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau ychydig o gystadlu cyfeillgar. Mae'r ychwanegiad newydd hwn yn gwella ein cyfleusterau hamdden ac yn darparu gweithgaredd gwych i deuluoedd, ffrindiau ac ymwelwyr o bob oed."
Ar agor ac yn barod i chwarae!
Mae Cwrs Gwallgolff Caban bellach ar agor bob dydd, gan gynnig gweithgaredd llawn hwyl a fforddiadwy i bawb. P'un a ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan i'r teulu, her gyfeillgar, neu ddim ond gêm hamddenol mewn lle hardd, rydych chi'n sicr o fwynhau rhoi cynnig ar y cwrs hwn a chreu atgofion arbennig.
Cynllunio'ch ymweliad
Lleoliad: Caban, Traeth Pentywyn
Amserau Agor: 11am – 5pm
Prisiau: Oedolion: £5, Plant: £4, Consesiynau: £4
I gael rhagor o fanylion, ewch i www.cabanpentywyn.cymru neu dilynwch @CabanPendine ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y wybodaeth ddiweddaraf, digwyddiadau a chynigion arbennig.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk