Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

07 Ebr 2025

Newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg

Changes to waste collections over the Easter period

Newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg: SR-76583 banc hol bins newsroom-2

Bydd newidiadau i gasgliadau biniau dros gyfnod y Pasg eleni.

  • Dydd Gwener y Groglith - (18 Ebrill): Bydd casgliadau’n digwydd ddydd Sadwrn, 19 Ebrill.
  • Dydd Llun y Pasg (21 Ebrill): Bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyr fel y dangosir isod:

Diwrnod casglu arferol

Diwrnod Casglu Diwygiedig

Dydd Gwener, 18 Ebrill

Dydd Sadwrn, 19 Ebrill

Dydd Llun, 21 Ebrill

Dydd Mawrth, 22 Ebrill

Dydd Mawrth, 22 Ebrill

Dydd Mercher, 23 Ebrill

Dydd Mercher, 23 Ebrill

Dydd Iau, 24 Ebrill

Dydd Iau, 24 Ebrill

Dydd Gwener, 25 Ebrill

Dydd Gwener, 25 Ebrill

Dydd Sadwrn, 26 Ebrill

Rhowch eich sbwriel mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu diwygiedig. Bydd casgliadau gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.

Er mwyn helpu i sicrhau bod casgliadau'n rhedeg yn esmwyth dros gyfnod y Pasg, mae gweithwyr ychwanegol wedi'u penodi yn dilyn ymgyrch recriwtio ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff dibynadwy i breswylwyr, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur fel y Pasg. Mae’n bwysig hefyd diolch yn fawr i'r staff sydd wedi cytuno i weithio dros y penwythnos i ddarparu'r gwasanaeth. Er mwyn cefnogi hyn, rydym wedi recriwtio staff ychwanegol yn ddiweddar i helpu i gynnal lefelau’r gwasanaeth a tharfu cyn lleied â phosibl ar y gwasanaeth.

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm, rydym bob amser yn chwilio am unigolion ymroddedig i helpu i gadw ein cymunedau’n lân ac yn gynaliadwy.

Er ein bod yn anelu at gasglu yn ôl yr amserlen, efallai y bydd tarfu lleol a allai newid ar fyr rybudd. Cadwch lygad ar ein tudalen tarfu ar gasgliadau gwastraff  i weld unrhyw ddiweddariadau.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre, Nantycaws, Wernddu, a Hendy-gwyn ar Daf ar agor fel arfer dros benwythnos y Pasg. Gallwch wirio eu horiau agor yma.

Diolch yn fawr am ailgylchu.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk