Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

08 Ebr 2025

Disgyblion Sir Gâr yn trafod newid hinsawdd yn y Senedd

Carmarthenshire pupils address climate change in the Senedd

Disgyblion Sir Gâr yn trafod newid hinsawdd yn y Senedd: Climate Action Carmarthenshire at the Senedd

Mae disgyblion o bum ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd yn Sir Gâr wedi bod i'r Senedd yng Nghaerdydd i drafod newid hinsawdd a hyrwyddo atebion cynaliadwy.  

Cafodd cyfarfod tymhorol Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr ei gynnal ddydd Llun, 31 Mawrth. Cafodd y cyfarfod ei agor gan Zain ac Ali o Ysgol Bryngwyn a'i gadeirio gan Menna a Lewis o Ysgol Bro Dinefwr. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cynrychiolwyr disgyblion o Ysgol Ffwrnes, Ysgol Penrhos, Ysgol Bryngwyn, Ysgol Coedcae, Ysgol Bro Dinefwr, Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. Roedd agenda'r cyfarfod yn canolbwyntio ar feysydd o faniffesto y Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd. Y prif bwnc trafod oedd lleihau gwastraff bwyd mewn ysgolion, bwydlenni cinio ysgol, creu mannau tyfu cynhyrchiol mewn ysgolion i gynnwys cymunedau lleol ac adeiladu partneriaethau gyda chynhyrchwyr bwyd lleol. Roedd y cyfarfod yn cynnwys cyflwyniadau gan ddisgyblion a thrafodaethau ynghylch sut y gall strategaethau lleol a chenedlaethol gefnogi camau gweithredu cadarnhaol a newid. Cyflwynodd pob disgybl y wybodaeth ddiweddaraf am ei waith presennol i gefnogi addasiadau cadarnhaol mewn ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd a Natur. Roedd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet yr Awdurdod, Lee Waters, Aelod o'r Senedd, Prifysgol Abertawe a'r Rhaglen Ysgolion Bywyd Da hefyd yn bresennol.

Cafodd y Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd ei sefydlu ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n cynnwys disgyblion o 15 ysgol gynradd ac 11 ysgol uwchradd yn Sir Gâr, yn ogystal ag uwch-aelodau a swyddogion y Cyngor. Mae'n annog pobl ifanc i drafod materion hinsawdd a chwilio am atebion, gan feithrin newid cadarnhaol mewn ysgolion a chymunedau lleol. Mae hyn yn cryfhau cyfathrebu, yn hyrwyddo cydweithio ar draws adrannau, ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu cynrychioli ym mhob un o adrannau'r Awdurdod Lleol.

Mae cyfarfodydd y Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd yn cael eu cynnal bob tri mis ac yn cael eu cadeirio gan ddau gynrychiolydd disgyblion yn eu tro.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: 

Mae'r Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd yn enghraifft wych o gydweithio rhwng pobl ifanc, yr Awdurdod Lleol, a'r gymuned ehangach.  Roedd y cyfarfod hwn yn tynnu sylw at y gwaith parhaus i greu newid amgylcheddol cadarnhaol drwy alluogi ein myfyrwyr drwy blatfform dan arweiniad disgyblion sy'n cynnwys pobl ifanc mewn trafodaethau am y materion sy'n bwysicaf iddyn nhw.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk