Ystyriwch fynd ar fws wrth ymweld ag Eryri y Pasg hwn
Think about the bus when visiting Eryri this Easter
Gwasanaethau llwyddiannus yn cludo'r nifer uchaf erioed o deithwyr yr haf diwethaf
Roedd gwasanaethau bysiau sy'n gweithredu ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cludo'r nifer uchaf erioed o deithwyr yr haf diwethaf, ac maent yn paratoi ar gyfer cyfnod llwyddiannus arall wrth i wyliau'r Pasg agosáu.
Mae Trafnidiaeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wedi trawsnewid rhwydwaith bysiau poblogaidd Sherpa Eryri, sy'n cynnig rhwydwaith integredig o wasanaethau bysiau mynych a hygyrch sy'n cysylltu canolfannau fel Bangor, Caernarfon a Phorthmadog i atyniadau allweddol i ymwelwyr ar draws canol Parc Cenedlaethol Eryri sydd o fudd i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae bysiau newydd a chyfforddus yn rhedeg ar bob llwybr drwy gydol y dydd ar lwybrau allweddol gan gynnwys safleoedd Parcio a Theithio yn Llanberis a Nant Peris gan gynnig ffordd ddi-straen, fforddiadwy a chynaliadwy i ymwelwyr fwynhau ymweld ag un o ardaloedd mwyaf deniadol Cymru.
Wrth i bobl feddwl am gerdded yn y bryniau a'r mynyddoedd dros wyliau'r Pasg ac i mewn i'r haf, mae'r gwasanaethau a gynigir yn cynnig yr opsiwn i gyrraedd lleoliadau heb orfod defnyddio'r car, gan ddileu'r pryder am barcio yn yr ardaloedd mwy poblogaidd.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Parc Cenedlaethol ac awdurdodau lleol i ddarparu dewis cynaladwy yn lle’r car yn yr ardal er mwyn helpu i leddfu problemau pracio.
Ym mis Awst y llynedd defnyddiodd dros 72,000 o bobl wasanaeth Sherpa'r Wyddfa, cynnydd o dros 7 y cant o gymharu ag Awst 2023. Mae nifer y teithwyr ar rwydwaith Sherpa wedi cynyddu 79 y cant o gymharu â'r cyfnod cyn Covid.
Yn y cyfamser, gwelodd gwasanaeth T10 Traws Cymru sy'n cysylltu Bangor – Bethesda – Betws y Coed – Corwen gynnydd o 86 y cant yn nifer y teithwyr ym mis Awst 2024 o gymharu ag Awst 2023, a gwelodd gynnydd o 44 y cant yn nifer y teithwyr yn 24/25 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol yn gyffredinol.
Heddiw, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar y ddau wasanaeth yn ardal Betws y Coed.
Dywedodd: "Mae Eryri yn lle trawiadol i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag e'. Nid yw'n syndod ei fod yn denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau ei olygfeydd a'r gweithgareddau gwych. Mae'n lle arbennig iawn a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i wneud yn siwr fod pobl yn gallu ymweld mewn ffordd gynaliadwy a chyfleus.
"Mae llwyddiant gwasanaethau Sherpa'r Wyddfa a T10 dros yr haf yn newyddion gwych. Mae'n dangos, o roi dewis dibynadwy i bobl yn lle'r car, yna gall wneud gwahaniaeth. Rwy'n falch o weld canlyniadau'r gwaith y mae TrC wedi’i wneud gyda'r parc cenedlaethol a'r awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hyn.
"Os ydych yn bwriadu ymweld ag Eryri dros y Pasg neu'n hwyrach yn yr haf, manteisiwch i'r eithaf ar y gwasanaethau ardderchog hyn sy'n darparu ffordd ddi-straen o fwynhau'r parc cenedlaethol."
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio TrC:
"Rydym yn dal i fuddsoddi yn TrawsCymru ac mae'r ffigurau diweddaraf o nifer y teithwyr ar y T10 yn dystiolaeth o effaith y buddsoddiad hwnnw. "Mae'r T10 wedi datblygu dros y tair blynedd diwethaf yn wasanaeth sydd nid yn unig yn gwasanaethu cymunedau lleol ond yn helpu i leihau tagfeydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri hefyd.
"Mae mwy o bobl bellach yn defnyddio'r gwasanaeth hwn gan ei fod yn cynnig cyfle i deithwyr eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau golygfeydd ysblennydd Eryri.
Dywedodd Angela Jones, Pennaeth Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri: "Drwy leihau'r defnydd o geir yn Eryri a'r cyffiniau, mae'r gwasanaethau bws hyn yn cyfrannu at amddiffyn ein hamgylchedd gan gefnogi trefi a phentrefi lleol trwy ddod ag ymwelwyr yn syth at garreg eu drws. Mae teithio ar fws yn caniatáu i bobl fwynhau golygfeydd trawiadol y Parc Cenedlaethol, gan gynnig profiad mwy hamddenol a phleserus o gymharu â gyrru. Rydym yn falch iawn o weld sut mae'r opsiynau teithio cynaliadwy hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau a harddwch naturiol Eryri."