- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
17 Hyd 2024
Cofnododd Trafnidiaeth Cymru (TrC) y cynnydd mwyaf yn nifer y teithwyr o holl gwmnïau trenau'r DU y gwanwyn hwn, cynnydd o 27% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae data sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos bod 7.6 miliwn o deithiau wedi'u gwneud ar wasanaethau TrC rhwng Ebrill a Mehefin eleni, o'i gymharu â 6 miliwn yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol James Price: "Os edrychwch chi ar y niferoedd, rydyn ni'n gweld cynnydd mewn llawer o wahanol gymunedau, nid dim ond mewn un neu ddwy ardal.
"Mae hynny oherwydd gwaith caled cymaint o bobl i ddarparu gwasanaeth cyson a dibynadwy.
"Rydym hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o drenau newydd sbon wrth i ni fwrw ymlaen â’n hymrwymiad o £800 miliwn i uwchraddio ein fflyd.
"Dyfal donc a dyrr y garreg yw hi – rydym yn dyfalbarhau er mwyn gwneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru y gorau y gall fod, ac mae'n galonogol gweld mwy a mwy o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer eu bywydau bob dydd."
Gellir priodoli'r cynnydd yn nifer y teithwyr i nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- Cyflwyno trenau newydd sbon (Ym mis Ebrill 2023, roedd TrC wedi cyflwyno 26 trên newydd sbon i'r rhwydwaith. Erbyn Ebrill 2024, 57 oedd y ffigwr).
- Gwasanaethau ychwanegol ar linell Wrecsam i Bidston a gwasanaethau newydd sbon o Lyn Ebwy i Gasnewydd.
- Gwell perfformiad o ran prydlondeb (gwelliant +8.1%) a dibynadwyedd (nifer yr achosion o ganslo wedi gostwng gan 3.2%), o'i gymharu â'r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn 2023.
- Ehangu cyflwyniad y dull Talu Wrth Fynd yn ne-ddwyrain Cymru, gan ei gwneud hi'n haws fyth teithio ar y trên.
- Cyflwyno tocynnau Advance rhatach ar draws llawer o'r rhwydwaith, sydd ar gael i’w prynu hyd at y diwrnod teithio ac ar y diwrnod hefyd.
- Ailagor llinell Treherbert ym mis Chwefror 2024 (cyfrannodd tua 316,000 o deithiau o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol).
Mae digwyddiadau mawr allweddol yng Nghaerdydd hefyd wedi cyfrannu at y cynnydd, gyda Bruce Springsteen, Pink, Foo Fighters a Taylor Swift i gyd yn cynnal cyngherddau yn y brifddinas rhwng Mai a Mehefin eleni.
Mae rhai o'r llinellau sydd wedi gweld twf cryf yn cynnwys:
- Mae Caer-Manceinion/Lerpwl wedi cyfrannu ychydig yn llai na 11% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
- Mae Caerdydd-Merthyr wedi cyfrannu ychydig dros 10% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
- Mae Caer-Birmingham Int wedi cyfrannu ychydig yn llai na 10% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
- Mae Caerdydd-Abertawe wedi cyfrannu ychydig llai nag 8% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
- Mae Crewe-Caergybi wedi cyfrannu ychydig llai na 6% o gyfanswm y twf mewn niferoedd hyd yn hyn eleni
Nodiadau i olygyddion
TrC oedd y cwmni trenau a oedd wedi gwella fwyaf o ran dibynadwyedd a lleihau canslo o fis Ebrill i Fehefin 2024 – Passenger rail performance – April to June 2024 (orr.gov.uk)
Eleni hefyd gwelwyd cynnydd sylweddol o ran boddhad teithwyr, gydag Arolwg Defnyddwyr Rheilffordd Transport Focus yn dangos bod 88% o gwsmeriaid yn fodlon - ein sgôr uchaf ers dechrau'r arolwg.
Gellir gweld ffigyrau’r Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR), sy'n dangos y cynnydd o 27% ar gyfer Ebrill i Fehefin YMA.
Yn seiliedig ar gyfnod diweddaraf y rheilffyrdd (2025/P06), mae Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi parhau i berfformio'n well na'r diwydiant rheilffyrdd ehangach o ran refeniw, niferoedd ac adferiad cynnyrch yn erbyn y sefyllfa cyn COVID (gyda Rheilffyrdd TrC 11% ar y blaen o ran adfer niferoedd).
Mae Rheilffyrdd TrC hefyd ymhell ar y blaen o’i gymharu â’r diwydiant ehangach o ran twf o flwyddyn i flwyddyn mewn refeniw a niferoedd, gyda Rheilffyrdd TrC 17% ar y blaen o ran maint y twf.
Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023, roedd TrC yn rhedeg 7071 o wasanaethau’r wythnos. Yn y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin 2024 roedd hynny wedi cynyddu i 7119.