- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
04 Hyd 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda dibynadwyedd a phrydlondeb ei wasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR).
Mae data newydd ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fehefin 2024 yn dangos bod TrC wedi gwella'r mwyaf o unrhyw gwmni trenau yn y DU ar gyfer prydlondeb (gwelliant +8.1%) a dibynadwyedd (canslo wedi gostwng 3.2%), o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023.
Mae TrC hefyd ar frig y rhestr am y newid mwyaf mewn trenau sydd wedi'u cynllunio, gyda chynnydd o 26.7% yn nifer y trenau a gynlluniwyd rhwng Ebrill a Mehefin eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Mae ffigurau ychwanegol a ryddhawyd yn ddiweddar gan Transport Focus yn nodi gwelliant arall o ran boddhad cyffredinol cwsmeriaid â gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, sef 88% (28 Mehefin – 15 Medi 2024) – cynnydd o 16% mewn 12 mis.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: "Mae cyflwyno ein fflyd o drenau newydd sbon gwerth £800m yn barhaus wedi helpu i wella dibynadwyedd, prydlondeb a chapasiti ar draws y rhwydwaith.
"Rydym hefyd wedi cwblhau peth o'r gwaith peirianneg mwyaf arwyddocaol ar Linellau Craidd y Cymoedd fel rhan o'n gwaith o ddarparu Metro De Cymru, sydd wedi lleihau'r angen am wasanaethau bws yn lle trenau.
"Yn ogystal â'r perfformiad gwell, rydym wedi ychwanegu mwy o wasanaethau ledled Cymru ar lwybrau gan gynnwys Wrecsam – Bidston, llinell Glyn Ebwy a Chaerdydd - Cheltenham, i roi mwy o opsiynau teithio i'n cwsmeriaid.
“Rydyn ni'n gwybod bod gwelliannau i'w gwneud o hyd gyda'n gwasanaethau ond gyda mwy o drenau newydd ac amlder gwasanaeth gwell yn dal i ddod dros y blynyddoedd nesaf, rydyn ni'n gwneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau gwelliannau pellach i'n cwsmeriaid."
Am ragor o wybodaeth am Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://newyddion.trc.cymru/
Nodiadau i olygyddion
*Data ORR ar gael yma
dataportal.orr.gov.uk/media/ocib4lie/performance_stats_release_2024-25_q1.pdf
**Data Transport Focus yma Arolwg Defnyddwyr Rheilffyrdd – canlyniadau gweithredwyr trenau - Transport Focus