- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
23 Ion 2025
Mae’r flwyddyn hon yn nodi 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern yn y DU ac mae Cymru’n paratoi i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon.
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn ledled Cymru a chynhelir y digwyddiad cychwynnol yn Aberystwyth heddiw.
Dywedodd Dr Louise Moon, Arweinydd Rhaglen Rheilffordd 200 Trafnidiaeth Cymru, ei bod hi’n gyffrous i arddangos hanes Cymru yn ogystal â hyrwyddo’r datblygiadau newydd sydd bellach yn digwydd.
Dywedodd hi: “Rydyn ni’n hynod o gyffrous i rannu cymaint o hanes Cymru gyda’n cymunedau, gan adrodd yr holl straeon am arloesedd, cryfder, a phenderfyniad.
“Mae Rheilffordd 200 yn dathlu cymaint o’n hanes cymdeithasol a diwylliannol ynghyd â’r ffordd wnaeth y rheilffyrdd drawsffurfio’n gwlad a’i gwneud hi’r hyn y mae heddiw.
“Gyda dyfodiad y rheilffordd, gwnaeth trefi fel Aberystwyth dyfu’n eithriadol. Braf felly, yw lansio’r flwyddyn o ddigwyddiadau yma.
“Nid yn unig yr ydym eisiau ysbrydoli cenhedlaeth newydd gyda’n hanes yr ydym mor falch ohono, wrth inni ddatblygu prif waith trawsffurfio nesaf ein rhwydwaith, a fydd yn cysylltu cenhedloedd y dyfodol o fewn Cymru, rydym hefyd am ei hysbrydoli gyda’r wyddoniaeth, technoleg ac arloesedd sydd bellach yn bodoli.”
Er i’r garreg filltir nodi 200 blynedd ers y daith gyntaf i gwsmeriaid ar Reilffordd Stockton & Darlington ar 25 Medi,1825, gall Cymru hawlio rhan enfawr yn hanes y daith nodedig honna.
Ym 1804, dylunwyd locomotif Penydarren gan y peiriannydd Cernywaidd, Richard Trevithick, a wnaeth dynnu 10 tunnell o lo am 10 milltir rhwng Gwaith Haearn Penydarren ym Merthyr Tydfil ac Abercynon.
Tair blynedd wedyn, ym 1807, gwelwyd teithwyr cyntaf y byd yn prynu tocynnau ar gyfer Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls. Byddai ceffylau yn lle locomotifau’n tynnu cerbydau ar hyd y traciau trên a fyddai’n brofiad hynod o boblogaidd i lawer.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dod yn rhan o’r hanes hwnnw drwy drydaneiddio llinellau craidd y cymoedd yn ne-ddwyrain Cymru, adeiladu gorsafoedd a depos newydd, a buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd.
Dyma’r pedair prif thema a fydd yn cael eu harchwilio fel rhan o’r cynlluniau ehangach i adrodd hanes Rheilffordd 200 ledled y DU.
· Sgiliau ac Addysg
· Arloesedd, Technoleg a’r Amgylchedd
· Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth
· Dathlu Pobl y Rheilffordd Am ragor o wybodaeth, ewch i Mae Rheilffordd 200 ar y gweill | Trafnidiaeth Cymru