- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
28 Ion 2025
Fel hwb mawr i deithwyr, cyflwynir tocynnau integredig a thocynnau bws fforddiadwy ar draws llwybr T6 TrawsCymru a’r gwasanaethau 62 a 64 lleol o 2 Chwefror.
Nod y diweddariadau hyn yw gwneud teithio'n fwy cyfleus a chost-effeithiol, gyda theithwyr bellach yn gallu teithio yn ddi-dor rhwng llwybrau gan ddefnyddio un tocyn.
Gan weithio ar y cyd, mae Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir Powys ac Adventure Travel yn cyflwyno'r strwythur prisiau newydd hwn sy'n cynnwys tocynnau o-un-pen-i’r-llall o'r gwasanaethau bws lleol (62 a 64) i’r llwybr T6, gan ddarparu opsiynau teithio haws i deithwyr i gyrchfannau gwahanol, gan gynnwys Aberhonddu, Castell-nedd, Abertawe a thu hwnt. Gyda chyflwyniad prisiau is, parthau prisiau safonol newydd ac amrywiaeth o docynnau aml-daith newydd, gall cwsmeriaid bellach deithio mewn ffordd fwy fforddiadwy ac effeithlon ar draws y rhanbarth.
Nodweddion allweddol y system docynnau newydd
Tocynnau cwbl integredig: Gall teithwyr deithio rhwng llwybrau T6, 62 a 64 gydag un tocyn, gan ganiatáu tocynnau o-un-pen-i’r-llall o'r llwybr 62 (Banwen - Ystradgynlais) a’r llwybr 64 (Rhydaman - Ystradgynlais) i’r gwasanaeth T6 tua’r gogledd i Aberhonddu neu tua’r de i Gastell-nedd/Abertawe, ac i'r gwrthwyneb.
Tocynnau newydd rhwng llwybrau 62 a 64: Gall teithwyr nawr deithio gydag un tocyn rhwng unrhyw ddau leoliad ar y llwybrau hyn, gan wneud teithio rhwng gwasanaethau yn haws nag erioed.
Prisiau is ar gyfer tocynnau unffordd: Gall teithwyr nawr elwa o brisiau tocynnau unffordd a osodir ar oddeutu 50% o'r pris dwyffordd cyfatebol, gan leihau’r gost o deithio ar y tri gwasanaeth yn sylweddol.
Parth prisiau safonol Ystradgynlais: Bydd pob taith sengl o fewn parth Ystradgynlais yn costio £1.50 yn unig, gyda thocyn 7 diwrnod newydd ar gael ar gyfer teithio diderfyn o fewn y parth am £10.00.
Tocynnau Diwrnod Newydd T6 / 62 / 64 : Mae tocyn diwrnod newydd sy’n costio £8.00 yn darparu teithio diderfyn ar y tri gwasanaeth, sy'n berffaith i’r rhai sy’n teithio’n aml.
Bydd tocyn 7 diwrnod newydd ar gael am £28.00, a fydd yn cynnig opsiwn cost-effeithiol i deithwyr rheolaidd.
Tocyn Rover Diwrnod Powys: Mae'r tocyn Rover Diwrnod Powys poblogaidd yn parhau i fod ar gael am £9.00, sy’n rhoi mynediad i deithwyr at rwydwaith bws cyfan Powys, gan gynnwys y llwybrau T6, 62 a 64 sydd newydd eu hintegreiddio.
Gostyngiadau Plant a Phobl Ifanc: Bydd gostyngiad o 33% ar bob tocyn plentyn, gan gynnwys y rhai sydd â cherdyn Fy Ngherdyn Teithio i Bobl Ifanc, gan wneud teithio'n fwy fforddiadwy i deuluoedd.
Mae'r holl docynnau ar gael drwy ap TrawsCymru: Gall teithwyr brynu tocynnau diwrnod a thocynnau wythnos yn hawdd, gan gynnwys yr opsiynau integredig newydd, yn uniongyrchol drwy ap TrawsCymru er hwylustod ychwanegol.
Dywedodd Ian Robinson, Arweinydd Datblygu ar gyfer prisiau, tocynnau a modelu (bysiau) Trafnidiaeth Cymru: "Mae'r system docynnau newydd hon wedi'i chynllunio i ddarparu mwy o hyblygrwydd a gwneud teithio'n haws i gymudwyr lleol a chymudwyr sy’n teithio pellteroedd hirach. Trwy integreiddio llwybrau a gostwng prisiau, mae TrawsCymru, ynghyd â gwasanaethau lleol 62 a 64, yn parhau â'i hymrwymiad i drafnidiaeth gynaliadwy, fforddiadwy a hygyrch yn Ne Cymru."
Prisiau enghreifftiol
- Brynaman i Abertawe: £3.40 unffordd
- Aberhonddu i’r Coelbren: £3.70 unffordd
- Castell-nedd i Ystradgynlais: £2.20 unffordd
- Ystradgynlais i Abertawe: £2.80 unffordd
- Aberhonddu i Rydaman: £4.30 unffordd
Am ragor o wybodaeth
Ewch i wefan TrawsCymru neu lawrlwythwch ap TrawsCymru am fapiau llwybrau manwl, gwybodaeth ynglŷn ag amserlenni ac i brynu tocynnau'n uniongyrchol.