Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

29 Ion 2025

Taith Emma o aelwyd faethu i waith cymdeithasol

Emma’s journey from a fostering household to social work

Taith Emma o aelwyd faethu i waith cymdeithasol: Emma (Social Worker) at Scarlets-2

I Emma, ​nid ei swydd yn unig yw maethu – mae’n rhan o bwy yw hi. Wedi ei magu ar aelwyd faethu yn Sir Gaerfyrddin, gwelodd â’i llygaid ei hun yr effaith y gall cartref diogel, gofalgar ei chael ar fywyd plentyn. Dyma'r profiad a’i hysbrydolodd i ddilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol.

“Gwelais pa mor bwysig oedd hi i blant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael gofal, yn enwedig pan oedd eu bywydau'n teimlo’n anniogel ac yn anrhagweladwy.”

Bellach, gyda 23 mlynedd o brofiad yn y gwasanaethau plant a dwy flynedd yn y tîm recriwtio maethu, mae Emma yn gweithio i ganfod ac asesu gofalwyr maeth ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae ei rôl yn fwy na hyn – mae’n ymwneud ag adeiladu cymuned sy’n sicrhau y gall plant a phobl ifanc aros yn yr ardal y maent yn ei galw’n gartref.

Mae cariad yn trawsnewid bywydau, ac mae Emma yn gweld hynny bob dydd trwy waith anhygoel ein gofalwyr maeth a thrwy wên a llygaid y plant.

“Pan fydd plant yn cael eu maethu’n lleol, gallan nhw aros yn eu hysgolion, cadw eu ffrindiau, ac aros yn agos at y lleoedd a’r bobl y maen nhw’n eu hadnabod. Mae’n ymwneud â rhoi sefydlogrwydd iddyn nhw ac ymdeimlad o berthyn, sy’n hanfodol ar gyfer eu datblygiad a’u llesiant.”

Mae Emma yn angerddol am y gymuned faethu gref yn Sir Gaerfyrddin, cymuned y mae hi'n credu sy'n hanfodol ar gyfer cefnogi gofalwyr a phlant fel ei gilydd.

“Pobl gyffredin yw gofalwyr maeth sy'n gwneud pethau hynod.

Mae gyda ni gymuned faethu arbennig. Rydym yn cynnal digwyddiadau i ddod â phawb ynghyd, ac mae ein mentoriaid mwyaf profiadol bob amser ar gael i gynnig cymorth a rhannu eu gwybodaeth."

Wrth bwysleisio pwysigrwydd maethu lleol, dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Mae cadw plant a phobl ifanc yn eu cymunedau yn eu galluogi i gynnal cysylltiadau hanfodol gyda’u hysgolion, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cymorth. Mae’n ymwneud â rhoi’r cyfle gorau posibl iddyn nhw ffynnu mewn amgylchedd cyfarwydd a chariadus.”

Mae Emma hefyd yn gweithio i herio camsyniadau am faethu a gwaith cymdeithasol.

"Mae pobl yn aml yn meddwl bod gweithwyr cymdeithasol yno i farnu... Ond ein gwaith ni yw helpu a gweithio ochr yn ochr â gofalwyr maeth i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau dros blant a phobl ifanc yn ein cymuned."

Mae cefnogi gofalwyr maeth newydd yn rhan bwysig o waith Emma. Mae'r tîm maethu yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i sicrhau bod pob gofalwr yn gwbl barod ar gyfer heriau a phleserau maethu.

"Rydym ni am i ddarpar ofalwyr wneud penderfyniad gwybodus, dyna pam rydym ni'n eu harwain trwy hyfforddiant ac yn cynnig cefnogaeth ar bob cam. Mae maethu yn effeithio ar bawb yn ogystal â'r gofalwyr eu hunain, felly rydym wrth law i sicrhau bod y daith mor hwylus â phosibl.”

I Emma, pleser mwyaf ei gwaith yw gweld plant a phobl ifanc yn ffynnu mewn gofal maeth. Mae maethu yn ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth go iawn.

"Pan fydd plant yn teimlo'n ddiogel ac yn cael cefnogaeth, yn enwedig yn eu cymuned leol, maen nhw'n ffynnu. Mae'n anhygoel gweld y plant yn hapus, yn cyflawni eu potensial, ac yn adeiladu dyfodol mwy disglair."

Dyma ei chyngor i unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin sy’n ystyried maethu:

“Siaradwch â ni. Rydym ni yma i'ch helpu chi i ddysgu am faethu a rhoi cymorth i chi bob cam o'r ffordd. Mae'n gam mawr, ond yn gam sy'n newid bywyd plentyn - a'ch bywyd chi."

Mae taith Emma o dyfu i fyny ar aelwyd faethu i’w rôl fel gweithiwr cymdeithasol yn tynnu sylw at bŵer gofal a chymuned. Mae pob plentyn yn haeddu cael cartref diogel a chariadus, ac mae maethu yn un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o helpu i wneud i hynny ddigwydd. Allech chi agor eich calon a'ch cartref i helpu i drawsnewid bywyd plentyn?

I gael gwybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr. I wneud ymholiad, cysylltwch â ni.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk