Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

31 Ion 2025

Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin yn Ceisio Cymorth y Cyhoedd ar ôl i Wastraff Gael ei Waredu'n Anghyfreithlon

Carmarthenshire County Council’s Environmental Enforcement Team Seeks Public Assistance Following Illegal Waste Dumping

Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin yn Ceisio Cymorth y Cyhoedd ar ôl i Wastraff Gael ei Waredu'n Anghyfreithlon: pro-aLpq23ym newsroom -2

Mae Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymchwilio i ddigwyddiad sylweddol o waredu gwastraff yn anghyfreithlon sy'n cynnwys cynhwysydd mawr wedi'i lenwi â gwahanol fathau o wastraff. Cafodd y cynhwysydd ei adael mewn cilfan ar ffordd yr C2704 gan arwain at Lansaint ar neu cyn dydd Llun, 27 Ionawr 2025.

Rydym yn annog unrhyw un a welodd weithgarwch amheus yn yr ardal neu sydd â gwybodaeth am y cynhwysydd hwn i gysylltu â ni. Mae eich cymorth yn hanfodol i adnabod y rhai sy'n gyfrifol am y drosedd amgylcheddol hon.

Anogir aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw fanylion perthnasol ar-lein neu drwy'r ganolfan gyswllt ar 01267 234567. Bydd pob adroddiad yn ddienw.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Yng Nghymru, gall unigolion sy'n cael eu dal yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwyon o hyd at £50,000 neu garchar. Rydym yn atgoffa deiliaid tai am eu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n iawn. Gall methu â gwneud hyn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £300 os canfyddir bod eu gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon.

Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn edrych yn salw ac yn niweidio'r amgylchedd, ond mae hefyd yn costio swm ariannol sylweddol i'w glirio. Gall unrhyw un sy'n cael eu dal yn tipio anghyfreithlon ddisgwyl derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 neu wynebu dirwy ddiderfyn a/neu hyd at 12 mis o garchar os caiff ei ddyfarnu'n euog mewn llys barn.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:  

"Mae tipio anghyfreithlon nid yn unig yn ddolur llygad ond yn drosedd amgylcheddol ddifrifol sy'n effeithio ar ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a'n mannau cyhoeddus. Rydym yn ymroddedig i fynd i'r afael â'r mater hwn a sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn atebol. Rwy'n annog unrhyw un sydd wedi gweld gweithgarwch amheus neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk