
Prosiectau Sir Benfro yn llwyddiant adeiladu
Pembrokeshire projects are building success
Mae Tîm Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Penfro yn llongyfarch prosiectau adeiladu a dylunio lleol am lwyddiant yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC 2024.
Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC yw'r gwobrau busnes i fusnes mwyaf yn y sector rheoli adeiladu.
Maent yn dathlu adeiladau a thimau dylunio sydd wedi goresgyn heriau problemau technegol ac adeiladu cymhleth ac yn rhoi sylw i waith adeiladu arloesol a chreadigol.
Yn Sir Benfro, cyflawnodd D & O Construction Ltd, Julian Bishop Architect, Redstone Architecture ac AB Rogers & Son Ltd, Hayston Development & Planning Ltd i gyd lwyddiant ar rai prosiectau lleol proffil uchel.
Yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol LABC 2024, enillodd Berry Lodge, Trefdraeth wobr yr Estyniad Preswyl Gorau yng Nghymru gyda gwaith a wnaed gan D & O Construction Ltd a chyda'r asiantau Julian Bishop Architect a Redstone Architecture.
Rhoddwyd canmoliaeth uchel i ddatblygiad ym Mhlas y Castell, Llanhuadain, a gyflawnwyd gan AB Rogers & Son Ltd a Hayston Development & Planning Ltd.
Yna aeth datblygiad Berry Lodge ymlaen i'r Rowndiau Terfynol yn Grovesnor House yn Llundain lle dathlwyd y prosiectau gorau ledled y DU.
Dywedodd Rheolwr Rheoli Adeiladu'r Cyngor, Sam Goodwin: "Mae Rheoli Adeiladu yn falch iawn o weithio ar y prosiectau hyn sy'n tynnu sylw at sgiliau ac arloesedd datblygwyr yn lleol.
“Mae Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Penfro yn falch o fod yn rhan o Wobrau LABC. Sefydlwyd gwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) i ddathlu rhagoriaeth a gyflawnwyd trwy safonau adeiladu uchel, arloesedd technegol a dyluniadau cynaliadwy.
“Mae'r Gwobrau yn gyfle i'r diwydiant ddathlu arferion adeiladu da ac mae'r enillwyr yn dangos sut mae perthynas waith gadarnhaol gyda thimau rheoli adeiladu lleol y Cyngor yn cyflawni adeiladau cynaliadwy o ansawdd uchel.
“Mae'r gwobrau'n unigryw oherwydd eu bod yn cydnabod sut mae'r cydweithrediad hwn yn gwella safonau adeiladu a phroffesiynoldeb ar draws y diwydiant ac mae'n wych gweld contractwyr, asiantau a dylunwyr lleol yn Sir Benfro yn derbyn cydnabyddiaeth am gyflawni'r safonau hyn."
Os hoffech gysylltu ag Adran Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Penfro, cysylltwch â Rheoli Adeiladu drwy'r wefan https://www.sir-benfro.gov.uk/rheoli-adeiladau neu fel arall ffoniwch 01437 764551
Nodiadau i olygyddion
Yn y llun yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC mae; Andrew James – Rheoli Adeiladu CSP, Tim Phillips – Gwneuthurwr Dur, David Leyshon – Cleient, Stuart Clark – Trydanwr, Nick James – Technolegydd Pensaernïol / Syrfëwr Meintiau, Alan Davies – D & O Construction - Prif Gontractwr, Wayne O’Sullivan, D & O Construction - Prif Gontractwr, Scott Richards – Saer, Darren Devonald – Adeiladwr, Dylan Hannaford – Saer, Terrence O’Sullivan – Adeiladwr.