
Prydles wedi’i llofnodi ar gyfer dyfodol Maes Awyr Hwlffordd
Lease signed for future of Haverfordwest Airport
Mae Cyngor Sir Penfro wedi llofnodi prydles gyda chwmni hedfan lleol ar gyfer gweithredu Maes Awyr Hwlffordd, gan sicrhau dyfodol y cyfleuster pwysig.
Mae Maes Awyr Hwlffordd yn darparu gwasanaethau brys gyda safle gweithredu yn lleol, yn hybu cyfleoedd economaidd i'r ardal ac yn caniatáu i weithredwyr masnachol a phreifat hedfan i mewn ac allan o'r Sir.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gweithredu'r maes awyr ers y 1950au. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd ariannol bresennol ni allai'r Cyngor gyfiawnhau cost barhaus gweithredu'r Maes Awyr a cheisiwyd trefniadau amgen.
Y llynedd, cefnogodd y Cabinet argymhelliad i brydlesu'r maes awyr i randdeiliad presennol a chwmni hedfan sefydledig ar y sail y byddai'r cyfleuster yn parhau fel Maes Awyr Trwydded Cat 2.
Mae cytundeb rhwng y Cyngor a Haverfordwest Airport Ltd bellach wedi'i lofnodi.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: "Rhoddais fandad clir i'r tîm yn y trafodaethau hyn, cynnal maes awyr gweithredol heb unrhyw gost barhaus i'r trethdalwyr.
“Rwy'n falch iawn ein bod wedi dod i gytundeb gyda'r cwmni sy'n cyflawni'r amcanion hynny. Bydd Sir Benfro yn parhau i gael ei gwasanaethu'n dda gan Faes Awyr Hwlffordd, boed hynny'n cefnogi'r Ambiwlans Awyr a Gwylwyr y Glannau neu'n cefnogi economi'r Sir, wrth i ddatblygiadau fel y Porthladd Rhydd Celtaidd gychwyn.
“Hoffwn ddiolch i'r rhai sy'n rhan o'r trafodaethau, tîm y Cyngor a'r rhai ar ochr Haverfordwest Airport Ltd am ddod â ni i'r pwynt hwn. Hoffwn hefyd ddymuno dyfodol ffyniannus a hapus i'n staff ymroddedig sy'n trosglwyddo i Faes Awyr Hwlffordd gyda'u cyflogwyr newydd.
“Edrychaf ymlaen at flynyddoedd lawer pan fydd Maes Awyr Hwlffordd o fudd i bobl ac economi Sir Benfro.”
Dywedodd llefarydd ar ran Haverfordwest Airport Ltd: "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o'r bennod newydd gyffrous hon fel gweithredwyr balch Maes Awyr Hwlffordd.
“Mae hwn yn gyfle rhyfeddol i ni roi bywyd newydd i borth mor eiconig, ac rydym wedi ymrwymo i wella cyfleusterau a gwasanaethau'r maes awyr er budd y gymuned, ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd.
“Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd Maes Awyr Hwlffordd i'r gwasanaethau brys, ac rydym yn ymroddedig i barhau â'n cefnogaeth i'w gweithrediadau hanfodol, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
“Hoffem gydnabod gwaith caled Cyngor Sir Penfro i gyrraedd y pwynt hwn, ac edrychwn ymlaen at ysgogi twf, arloesedd a chysylltedd y maes awyr yn y blynyddoedd i ddod."
Bydd Haverfordwest Airport Ltd yn cymryd y cyfrifoldeb am weithrediadau o ddydd i ddydd yn y maes awyr a bydd staff maes awyr y Cyngor yn cael eu trosglwyddo fel rhan o'r brydles.
Ni fydd hyn yn effeithio ar weithredu y Sioe Sir ar ran o safle'r maes awyr yn y dyfodol.