Skip to main content

New Chief Operating Officer for TfW

20 Maw 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch o gyhoeddi penodiad Marie Daly fel ei Brif Swyddog Gweithredu (COO) newydd – yn weithredol ar 1 Ebrill 2025.

Mae Marie, sy’n Brif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC ar hyn o bryd, yn dod â mwy nag 17 mlynedd o brofiad yn y diwydiant rheilffyrdd gyda hanes cryf mewn arweinyddiaeth weithredol, profiad cwsmeriaid a thrawsnewid diwylliannol. Mae hi wedi dal rolau allweddol, gan gynnwys Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol TrC a Chyfarwyddwr Cyflenwi Gwasanaethau yn rhwydwaith tramiau Manceinion, Metrolink a chwarae rhan ganolog yn y gwaith o oruchwylio’r broses o drosglwyddo masnachfraint rheilffyrdd Cymru i Trafnidiaeth Cymru yn 2021.

Daw penodiad Marie ar adeg dyngedfennol i Trafnidiaeth Cymru wrth iddo barhau â’i drawsnewidiad yn weithredwr trafnidiaeth amlfodd cwbl integredig a gwireddu ei weledigaeth o ddod yn hoff ffordd Cymru o deithio.

Mae Marie hefyd yn Gadeirydd Women in Rail, sefydliad sy’n ceisio gwella amrywiaeth yn niwydiant rheilffyrdd y DU, lle mae’n hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant – gwerthoedd sy’n ganolog i ddiwylliant ac uchelgeisiau TrC ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym wedi cyflawni llawer iawn o newid trawsnewidiol ar ein rhwydwaith – drwy gyflwyno trenau newydd a thrydaneiddio Rheilffyrdd Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o Fetro De Cymru – ac mae’r gwaith hwn yn parhau.

“Bydd ffocws cryf Marie ar berfformiad gweithredol a rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid a’i harweinyddiaeth yn allweddol i yrru cam nesaf ein strategaeth a sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy a hygyrch.”

Ychwanegodd Marie Daly:

“Rwy’n hynod falch ac yn gyffrous i gamu i’r rôl fel Prif Swyddog Gweithredu TrC. Ar ôl bod yn rhan o’r sefydliad hwn ers 2018, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y cynnydd rydym wedi’i wneud ac rwy’n awyddus i barhau i ysgogi newid bob dydd, gan ei gwneud hi’n haws i gydweithwyr gyflawni ar gyfer cwsmeriaid a gwneud y mwyaf o fanteision trawsnewid ein gwasanaethau i bobl Cymru.”

Llwytho i Lawr