English icon English

Cynnal “digwyddiad busnes mwyaf Cymru erioed” ym mis Rhagfyr

Wales’ “biggest ever business event” to take place in December

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi manylion yr uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol fawr sy'n cael ei chynnal yng Nghymru yn nes ymlaen eleni. 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Llun 1 Rhagfyr, yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru (ICC Cymru) a chyrchfan y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i fuddsoddwyr tramor. Ar hyn o bryd mae tua 1,480 o gwmnïau dan berchnogaeth dramor yn gweithredu yng Nghymru, gan gyflogi mwy na 174,000 o weithwyr.

I gyd-fynd â'r cyhoeddiad heddiw, mae Cadence Design Systems Inc, arweinydd meddalwedd dylunio lled-ddargludyddion o'r Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi cynlluniau i agor canolfan ddylunio newydd yng Nghaerdydd, gan greu mwy na 100 o swyddi medrus iawn. Bydd Canolfan Ddylunio Cadence, menter ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Compound Semiconductor Applications Catapult, yn dylunio sglodion ar gyfer lled-ddargludyddion, gan greu cronfa gref o raddedigion talentog i helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant.

Yn siarad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae Cymru'n mynd o nerth i nerth mewn diwydiannau sy'n siapio'r byd, o led-ddargludyddion ar gyfer ffonau symudol a cherbydau trydan i'n diwydiannau creadigol enwog, sy'n allforio rhaglenni teledu a ffilm i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd.

“Twf economaidd yw fy mhrif flaenoriaeth ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r prif bobl yn y meysydd hyn i'r digwyddiad busnes mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed. Bydd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i rannu gyda'r byd y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael yn ein cenedl ddeinamig, sy'n edrych tua'r dyfodol.”

Dywedodd Syr Terence Matthews, Cadeirydd cyrchfan y Celtic Manor:

“Rydym yn falch iawn o gael cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi Llywodraeth Cymru yn ICC Cymru a Chyrchfan y Celtic Manor.  Edrychwn ymlaen at groesawu arweinwyr diwydiant o bob cwr o'r byd i Gymru.  

“Mae'r Uwchgynhadledd yn gyfle gwych i fusnesau Cymru ddenu buddsoddwyr a rhoi hwb i'r economi.  Digwyddiadau fel hyn yw'r rheswm pam y gwnaethom adeiladu ICC Cymru, gan fod digwyddiadau busnes mor bwysig i greu cysylltiadau a hwyluso masnach a buddsoddiad.  Mae'r amseru’n dda hefyd ar gyfer proffil a thwf mentrau technoleg cyfathrebu newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio AI a dylunio a chreu dyfeisiau IoT gan ddefnyddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.”

Wrth siarad am fuddsoddiad Cadence, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

“Mae partneriaeth gyffrous Cadence gyda Llywodraeth Cymru a CSA Catapult yn atgyfnerthu'r hyder rhyngwladol yn y sector lled-ddargludyddion safon byd-eang yng Nghymru, a hefyd yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda busnesau i greu'r amodau a'r cyfleoedd cywir ar gyfer twf, buddsoddiad a chreu swyddi yma yng Nghymru.

Bydd y Ganolfan Ddylunio'n amrywio'r hyn y gall y sector ei gynnig yma, gan ategu'r gallu i weithgynhyrchu, a manteisio ar y galw cynyddol am ficrosglodion ar gyfer lled-ddargludyddion.

“Wrth wraidd y fenter hon ar y cyd mae'r ymdrech i recriwtio a hyfforddi talentau lleol, darparu gyrfaoedd â chyflog da i raddedigion a chreu cronfa gadarn o weithwyr proffesiynol medrus mewn diwydiannau uwch-dechnoleg sy'n cefnogi ein Cynllun Gweithredu Sero Net yn uniongyrchol.”

Dywedodd Martin McHugh, Prif Swyddog Gweithredol CSA Catapult:

“Mae creu'r ganolfan ddylunio lled-ddargludyddion newydd yn garreg filltir bwysig i'r diwydiant lled-ddargludyddion yn y DU. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Cadence Design Systems a Llywodraeth Cymru i greu cyfleuster o’r radd flaenaf, gan greu dros gant o swyddi newydd yng Nghymru.

“Drwy'r fenter hon ar y cyd gallwn fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau lled-ddargludyddion a chryfhau safle arweinyddiaeth y DU yn y maes dylunio sglodion. Mae'n adeiladu ar lwyddiant y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru a bydd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer ecosystem lled-ddargludyddion y DU gyfan. Bydd llwybrau gyrfa newydd ar gyfer graddedigion peirianneg drydanol, cyfrifiadureg a ffiseg. Gyda chefnogaeth Cadence a Llywodraeth Cymru, bydd y ganolfan newydd yn creu partneriaethau rhyngwladol a buddsoddiad pellach i'r DU.”