
Disgyblion Doc Penfro yn mwynhau aros ar fferm gydag ymwelydd Brenhinol arbennig
Pembroke Dock pupils enjoy farm stay with special Royal visitor
Yn rhan o drip preswyl blynyddol i fferm fwyaf gorllewinol Cymru cafwyd gwestai arbennig iawn y mis hwn wrth i'w Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol ymweld.
Mwynhaodd disgyblion Blwyddyn chwech o Ysgol Gymunedol Doc Penfro wythnos o arhosiad ar Fferm Treginnis Isaf, profiad blynyddol sy’n gyfle anhygoel i brofi bywyd gwledig.
Yn ystod yr ymweliad eleni ymunodd noddwr Farm for City Children, y Dywysoges Frenhinol, â'r disgyblion ac fe wnaeth Erin Hubbard a Jack Kinnard gyflwyno rhodd i'w Huchelder Brenhinol cyn iddi adael.
Dywedodd y pennaeth Michele Thomas: "Mae'r profiad yn Nhreginnis yn rhoi parch dwfn iddynt at fywyd gwledig ac maen nhw’n datblygu sgiliau annibynnol da o'r eiliad y maent yn cyrraedd. Mae disgyblion wedi dangos gwytnwch aruthrol wrth gyflawni tasgau a herio eu hunain i roi cynnig ar bethau newydd.
“Mae ymweliad â'r fferm, lle maen nhw'n cymryd rhan ym mywyd y fferm yn brofiad bywyd ac mae'r disgyblion yn creu cyfeillgarwch cryf parhaol â’i gilydd ac atgofion. Yn ogystal â hyn, roedd yn anrhydedd llwyr i'r staff a'r plant fod yn rhan o'r Ymweliad Brenhinol, a bydd yn rhywbeth na fyddant yn ei anghofio."
Tra bod disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu gyda thîm Fferm Treginnis Isaf, dangoswyd i Ei Huchelder Brenhinol beth oeddent yn ei ddarganfod am y broses o'r fferm i'r fforc, cyn cael gwybod am effaith wythnos Farms for City Children i'r rhai a oedd yn mynychu.
Ychwanegodd athrawes Blwyddyn Chwech, Nicola Davies: "Mae'r plant wedi bod yn mwynhau ymweliad gwych â'r fferm ac wedi bod yn dysgu cymaint am natur, gweithio ar fferm a bywyd gwledig yn gyffredinol. Mae cael ein hanrhydeddu ag ymwelydd mor arbennig hefyd wedi bod yn anhygoel."
Dywedodd Tim Rose, Pennaeth Gweithrediadau Farms for City Children: "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Dywysoges Frenhinol i Dreginnis Isaf a rhannu'r profiad o fod yn 'ffermwyr am wythnos' gyda hi. Mwynhawyd ei hymweliad yn fawr gan bawb ar y fferm ac roedd yn bleser gennym allu dangos iddi sut mae gwaith yr elusen yn cyd-fynd â chymaint o wahanol agweddau ar gymuned Sir Benfro.
“Rydym yn hynod werthfawrogol o gefnogaeth a brwdfrydedd parhaus Ei Huchelder Brenhinol am y gwaith rydyn ni'n ei wneud."
Cyfarfu'r Dywysoges Frenhinol hefyd â chynrychiolwyr o Gyfeillion Treginnis, sy'n cefnogi ymweliadau gan ysgolion lleol, a chynrychiolwyr o Car-y-Môr, menter fferm gwymon o Dyddewi.