Ysgrifennydd Cabinet yn ymweld â chanolfan fusnes o'r radd flaenaf
Cabinet Secretary visits state-of-the-art business centre
Arferai adeilad eiconig yr Automobile Palace fod yn gartref i weithdai ac ystafelloedd arddangos ceir ond erbyn hyn, mae wedi cael ei weddnewid yn ganolfan fusnes o'r radd flaenaf.
Cafodd Cyngor Sir Powys fwy na £1.5 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu i gaffael ac adfer yr adeilad mewn ffordd gydnaws â'i hanes a'i bensaernïaeth wreiddiol.
Un o'r ystyriaethau allweddol eraill wrth fynd ati i'w ailddatblygu oedd sicrhau y byddai'r Amgueddfa Feicio Genedlaethol yn cael aros yn yr adeilad.
Crëwyd 11 o unedau busnes a fydd yn cael eu rhoi ar osod, ac a fydd yn helpu'r economi leol i fod yn gystadleuol ac yn gynaliadwy, yn creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn hyrwyddo entrepreneuriaeth yng nghefn gwlad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: “Roedd yn braf iawn cael ymweld â Llandrindod a gweld yr effaith gadarnhaol y mae'n buddsoddiad adfywio yn ei chael ar fusnesau a chymunedau lleol ar draws y Canolbarth.
“Mae mor bwysig ein bod yn sensitif ac yn ofalus iawn wrth adfer adeiladau fel yr Automobile Palace, nid yn unig er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio unwaith eto ond hefyd er mwyn cadw'r cymeriad gwreiddiol sy'n eu gwneud mor arbennig.
“Mae'r prosiect hwn wir yn enghraifft o'r hyn rydyn ni'n ceisio'i gyflawni ledled Cymru, a dw i'n edrych 'mlaen at weld y mathau gwahanol o fusnesau a fydd yn ymgartrefu yn yr Automobile Palace.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt: “Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y £1.585 miliwn y mae'n eu rhoi drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi i helpu gyda'r prosiect hwn.
“Mae'n gyfraniad sylweddol at y swm o £3.4 miliwn sydd ei angen i brynu ac adnewyddu'r Automobile Palace eiconig yng nghanol Llandrindod.
“Mae'n wych ei weld yn cael ei ddefnyddio unwaith eto fel canolfan fusnes; erbyn hyn, mae pump o'r 11 uned wedi cael eu rhoi ar osod, a'r holl gerfluniau o lewod yn ôl yn eu priod le ar y to."
DIWEDD