English icon English

50 mlynedd o bartneriaeth arloesi sy'n torri tir newydd

50 years of pioneering innovation partnership scheme

Mae un o fentrau mwyaf hirhoedlog y DU sy'n cysylltu busnesau a sefydliadau â'r byd academaidd yn dathlu 50 mlynedd o ddarparu gwerth i economi Cymru.

Mae rhaglen y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn ysgogi twf ac arloesedd trwy ddatrys heriau go iawn sy'n wynebu busnesau, gan wneud hynny mewn partneriaeth ag academyddion ledled Cymru a'r DU. Mae'r partneriaethau sy'n cael eu meithrin yn hoelio'u sylw ar greu atebion sy'n arwain at arloesedd, twf economaidd a manteision cymdeithasol neu amgylcheddol, gan esgor ar newidiadau sy'n gwella bywydau pobl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig, mae prosiectau KTP Cymru wedi arwain at 78 o swyddi newydd, a  buddsoddiad o £6.5 miliwn mewn arloesi – gan gynnwys £1.8 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru, sy'n rhedeg y cynllun mewn partneriaeth ag Innovate UK.

Amcangyfrifir bod pob punt o fuddsoddiad cyhoeddus wedi creu hyd at £5.50 o fuddion economaidd net i economi Cymru.

Ar draws y DU, amcangyfrifir bod hyd at £2.3 biliwn wedi'u hychwanegu at yr economi rhwng 2010 a 2020, diolch i'r gwaith arloesi a wnaed ar y cyd drwy'r KTPs.

Mae'r cynllun hefyd yn helpu busnesau i fanteisio ar sgiliau newydd drwy ddenu graddedigion dawnus i weithio ar y prosiectau.

Bu'r elusen ddielw, Cerebra, yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd mewn KTP diweddar. Mae'r elusen, sydd â'i phencadlys yng Nghaerfyrddin, yn helpu i wella bywydau plant ag anhwylderau ar yr ymennydd drwy helpu eu teuluoedd â'u hanghenion iechyd, addysg a chymdeithasol hirdymor. 

Datblygodd y KTP hwnnw ddull seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial o wella effeithiolrwydd ymgyrchoedd marchnata Cerebra, ac o ddenu mwy o roddion i'r elusen.

Dywedodd Dr Simon Jang, Athro Cyswllt mewn Dadansoddeg Marchnata yn Ysgol Fusnes Caerdydd:

“Mae'n KTP gyda Cerebra yn dangos sut mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau i gael effaith yn y byd go iawn. Trwy gyfuno'n harbenigedd mewn marchnata, dadansoddi data, a deallusrwydd artiffisial, fe wnaethon ni ddatblygu strategaethau seiliedig ar ddata a oedd yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng rhoddwyr a Cerebra ac yn gwneud yr elusen yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor – gan ddangos sut mae KTPs yn ysgogi twf mewn sefydliadau ac yn creu gwerth cymdeithasol ehangach.” 

Dywedodd Ricky Howells, Goruchwyliwr Partneriaid Busnes gyda Cerebra:

“Mae'r KTP hwn wedi pwysleisio bod angen gwneud penderfyniadau ar sail data wrth ymdrin â phob agwedd ar godi arian.

“O ganlyniad, byddwn ni'n gallu cyrraedd a chefnogi rhagor o deuluoedd yn y dyfodol, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau plant sy'n byw gyda chyflwr ar yr ymennydd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae KTPs yn rhan bwysig o'r ecosystem arloesi yng Nghymru, ac maen nhw'n sbarduno gwell canlyniadau ar gyfer ein busnesau, ein sefydliadau academaidd, ein pobl a'n hamgylchedd. 

“Ers hanner can mlynedd, mae'r rhaglen arloesol hon wedi galluogi busnesau a sefydliadau fel Cerebra i fanteisio ar arbenigedd ac ar y gwaith ymchwil gorau sydd gan y DU i'w gynnig. Mae wedi bod yn fodd hefyd i helpu graddedigion i symud ymlaen yn gynt yn eu gyrfaoedd, gan greu swyddi uchel eu gwerth, sy'n talu'n dda, ledled Cymru.”

Dywedodd Richard Lamb, Rheolwr Rhaglen KTP gydag Innovate UK:

“A ninnau'n un o'i phrif gefnogwyr, mae Innovate UK yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y rhaglen KTP.  Nid dim ond cefnogi prosiectau unigol y mae cyllid Llywodraeth Cymru; mae hefyd yn helpu prifysgolion a cholegau Cymru i weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol.”