Gwybodaeth o dan embargo: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) i gael y Cydsyniad Brenhinol
Embargoed Trailer: Health and Social Care (Wales) Bill to receive Royal Assent
Yn ddiweddarach heddiw, mae disgwyl i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gael y Cydsyniad Brenhinol.
Am y tro cyntaf yn y DU, bydd y Ddeddf yn rhoi terfyn ar wneud elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal, yn y dyfodol.
Bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden yn dweud:
"Mae'r gyfraith bwysig hon yn golygu newid sylfaenol i'r ffordd rydym yn gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac mae eu lleisiau wedi bod yn ganolog i'n penderfyniadau.
"Drwy gael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, rydym yn sicrhau bod cyllid yn mynd tuag at wella canlyniadau i bobl ifanc, ac rwy'n falch mai ni yw'r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gymryd y cam beiddgar hwn.
"Mae'r newid hwn, law yn llaw â grymuso pobl anabl drwy daliadau uniongyrchol, yn dangos ein hymrwymiad diwyro i greu gwasanaethau gofal sy'n seiliedig ar dosturi yn hytrach na buddiannau masnachol.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â'r Ddeddf hon, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i drawsnewid ein gwasanaethau plant a gwella iechyd a gofal cymdeithasol."