- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Awst 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio gan y bydd gwaith ar Metro De Cymru yn effeithio ar wasanaethau o benwythnos nesaf.
Bydd gwaith trawsnewid yn parhau ar draws llinellau’r cymoedd er mwyn paratoi ar gyfer Metro De Cymru a'r llinellau sy’n cysylltu ag ef.
Bydd y cyntaf o sawl cyfnod o waith peirianneg a fydd yn effeithio ar wasanaethau drwy Gaerdydd Heol y Frenhines yn dechrau dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst a bydd yn cael ei gynnal yn ysbeidiol hyd at fis Tachwedd.
Mae TrC yn cynghori pob cwsmer i wirio cyn teithio gan y bydd bysiau yn lle trenau yn rhedeg.
Bydd posteri gwybodaeth yn cael eu harddangos mewn gorsafoedd ar draws y llinellau yr effeithir arnynt a bydd y gwiriwr teithiau yn cael ei ddiweddaru i roi gwybod i gwsmeriaid am y newidiadau.
Mae'r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a blaenau’r cymoedd.