- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
05 Awst 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio tocynnau trên diderfyn yr haf hwn i annog pobl i deithio’n gynaliadwy wrth archwilio harddwch Cymru.
O dref harbwr swynol Dinbych-y-pysgod i Gastell Harlech yn y gogledd, gall cwsmeriaid brofi teithiau trên diderfyn y tu allan i oriau brig gyda’n tocyn pedwar neu undydd.
Mae tocynnau hefyd yn cynnwys teithio ar lwybrau bysiau penodol TrawsCymru – gan roi mwy o gysylltiadau a dewisiadau llwybr i gwsmeriaid.
Mae Archwilio Cymru, Archwilio Gogledd a Chanolbarth Cymru ac Archwilio De Cymru yn cynnig 4 diwrnod o deithiau trên diderfyn dros gyfnod o 8 diwrnod, tra bod Archwilio Gorllewin Cymru ac Archwilio Cambrian yn cynnig teithio diderfyn am un diwrnod.
Datgloi Cymru gydag un tocyn yma
Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth TrC:
“Mae Cymru’n wlad hardd i’w harchwilio gyda llawer o atyniadau ac mae’r tocynnau trên diderfyn hyn yn rhoi cyfle i ymwelwyr a phobl leol archwilio gan ddefnyddio’r rheilffordd.
“Mae’r dewis o docynnau sydd ar gael yn galluogi cwsmeriaid i deithio o Ogledd Cymru i Dde Cymru gydag arosfannau yn y canol, neu i archwilio un rhanbarth yn unig. Mae tocyn teithio ar gael i bawb a gobeithiwn annog pobl i’w defnyddio a theithio’n gynaliadwy.”
Mae tocynnau ar gael ar wefan neu ap TrC, ac o swyddfeydd tocynnau neu ar fwrdd y trên gan arweinydd.