- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Gor 2024
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn croesawu miloedd o deithwyr i ŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop.
Cynhelir yr Eisteddfod, sy’n ddathliad o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, rhwng 3 a 10 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
Fel partner trafnidiaeth allweddol, mae TrC wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn annog pobl i ddefnyddio opsiynau teithio gwyrdd i gyrraedd y Maes.
Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr gyda’r nos yn ystod yr Eisteddfod ac anogir ymwelwyr sy’n bwriadu defnyddio’r rheilffyrdd i gynllunio ymlaen llaw.
Gall cwsmeriaid gyrraedd Pontypridd ar y trên o wahanol leoliadau. Mae gwasanaethau ar gael o Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert a Chaerdydd sy'n darparu mynediad uniongyrchol i Bontypridd.
Bydd angen i deithwyr sy'n bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rhymni newid yng Nghaerdydd Heol y Frenhines neu yng Nghaerdydd Canolog. Chwiliwch am drenau sy'n teithio i Ferthyr Tudful, Aberdâr neu Dreherbert, gan y bydd pob un o’r gwasanaethau hyn yn galw ym Mhontypridd.
Yn ogystal â hyn, gall y rhai sy'n dal y trên o Gaerdydd Heol y Frenhines neu Fae Caerdydd fanteisio ar y gwasanaeth uniongyrchol newydd i Bontypridd.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC:
"Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y digwyddiad i'r ardal, ac i Bontypridd yn enwedig, lle mae gennym ein pencadlys.
Er mwyn darparu ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr a ddisgwylir, rydym wedi gweithredu cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys gwasanaethau ychwanegol drwy gydol yr wythnos a phresenoldeb llawer o gydweithwyr ar y rhwydwaith i helpu cwsmeriaid.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr i'r dref ac yn dymuno pob lwc i'r holl gystadleuwyr."
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymrwymo i hyrwyddo ac annog ein hymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth ymweld â'r ŵyl.
Caiff Pontypridd ei gwasanaethu'n dda iawn gan opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy.
Lleolir y Maes funudau’n unig o’r orsaf drenau ac mae'n gyfle gwych i adael eich car gartref a mwynhau diwrnod yn yr Eisteddfod."
Nodiadau i olygyddion
- Am y newyddion teithio diweddaraf yn ymwneud â RhCT drwy gydol yr Eisteddfod dilynwch @EisteddfodTI neu cysylltwch â'n tîm ar X: @tfwrail neu Whatsapp (07790 952507) ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â threnau.
- Mae TrC yn rhedeg cyfanswm o 11 trên o Bontypridd i Gaerdydd ar ôl amser cau'r Eisteddfod (22:15) a 12 trên ddydd Gwener 9fed Awst (Billy Joel).
- Darperir gwasanaethau ychwanegol hefyd ddydd Sul 4 Awst