Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

07 Chw 2025

Sir Gaerfyrddin yn Dathlu Rhagoriaeth Twristiaeth yn Neuadd y Sir

Carmarthenshire Celebrates Tourism Excellence at County Hall

Sir Gaerfyrddin yn Dathlu Rhagoriaeth Twristiaeth yn Neuadd y Sir: 500 x 328 tourism awards-2

Roedd yn bleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin anrhydeddu enillwyr Gwobrau Twristiaeth Sir Gaerfyrddin mewn dathliad arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir heddiw.

Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Twristiaeth a Hamdden, y Cynghorydd Hazel Evans, a'r Cadeirydd, y Cynghorydd Handel Davies, yn cydnabod llwyddiannau eithriadol busnesau twristiaeth lleol.

Dathlwyd llwyddiant y busnesau canlynol am eu rhagoriaeth mewn twristiaeth a lletygarwch:

  • Parc Gwledig Pen-bre - Y Ddarpariaeth Carafanau, Gwersylla neu Wârsylla Orau
  • Amgueddfa Cyflymder Tir - Yr Atyniad Gorau
  • Plas Glangwili - Y Gwely a Brecwast, y Dafarn a'r Gwesty Gorau
  • Gwesty Plough Rhos-maen - Y gwesty Gorau, y Lle Gorau i Fwyta
  • Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain - Y Gweithgaredd, y Profiad neu'r Daith Orau
  • Cambrian Cottage - Y Ddarpariaeth Hunanarlwyo Orau
  • Bro a Byd - Mynd yr ail filltir
  • Gŵyl Lenyddol Dinefwr - Y Digwyddiad Gorau
  • Strangwrach Holiday Cottage - Y Ddarpariaeth Twristiaeth Hygyrchedd a Chynhwysol
  • Basel Cottage - Y Llety Gorau sy'n Croesawu Cŵn

Yn dilyn eu llwyddiant yn y Gwobrau Twristiaeth Rhanbarthol, bydd pum busnes o Sir Gaerfyrddin yn mynd ymlaen i gynrychioli rhanbarth De Orllewin Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol mawreddog Croeso Cymru, a gynhelir yn Venue Cymru yn Llandudno ar 27 Mawrth. Y busnesau fydd yn mynd ymlaen i’r llwyfan cenedlaethol yw:

  • Parc Gwledig Pen-bre
  • Plas Glangwili
  • Gwesty'r Plough
  • Cambrian Cottage
  • Strangwrach Holiday Cottage

Canmolodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, yr enillwyr a’u cyfraniadau i’r economi leol:

“Mae gan dwristiaeth rôl hanfodol o ran economi a chymunedau Sir Gâr. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled y busnesau sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth. Rydym yn falch o'r llwyddiannau hyn a'r effaith gadarnhaol y mae twristiaeth yn ei chael ar ein sir. Pob lwc i’r pum busnes sydd wedi mynd drwodd i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn estyn ei longyfarchiadau i’r holl enillwyr ac yn dymuno pob lwc i’r rhai sy’n cystadlu ar lefel genedlaethol.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk