English icon English
Flooding - Llifogydd cropped

Helpwch i lunio cynlluniau atal llifogydd yn Sir Benfro

Help shape flood prevention plans in Pembrokeshire

Mae Cyngor Sir Penfro yn gofyn am adborth gan y cyhoedd ar sut mae'n rheoli perygl llifogydd yn y Sir.

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gyhoeddi eu strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol a'u cynlluniau rheoli perygl llifogydd a gofyn am adborth gan drigolion lleol.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn helpu i nodi gwybodaeth leol am ardaloedd sy'n dueddol o gael llifogydd, digwyddiadau llifogydd hanesyddol, a gwendidau cymunedol penodol.

Yn aml, gall fod gan trigolion a rhanddeiliaid lleol wybodaeth unigryw am eu hardaloedd a all gyfrannu at ddatblygiad strategaeth llifogydd effeithiol.

Bydd yr ymgynghoriad yn galluogi'r cyhoedd i ddeall y rhesymeg y tu ôl i fesurau arfaethedig, yr effeithiau posibl, a'r strategaeth gyffredinol.

Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth am fesurau amddiffyn rhag llifogydd, systemau rhybuddio cynnar, cynlluniau ymateb brys, a gweithdrefnau gwacáu.

Trwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, mae cymunedau yn gallu paratoi a gwrthsefyll llifogydd yn well.

Mae mwy o fanylion am yr ymgynghoriad ar gael ar-lein.

Gallwch roi eich barn drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein.

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Cwblhewch yr arolwg erbyn dydd Llun 17 Mawrth.