Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

20 Chw 2025

Cyhoeddi Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Llansteffan

Llansteffan Flood Investigation Report Published

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd yn dilyn llifogydd yn Llansteffan dros gyfnod blwyddyn newydd 2023/24. Mae'r adroddiad yn archwilio achosion ac effeithiau'r llifogydd ac yn amlinellu argymhellion i wella gwaith rheoli perygl llifogydd yn yr ardal.

Yn ystod dwy storm ar 30 Rhagfyr 2023 a 2 Ionawr 2024, effeithiwyd ar oddeutu 34 eiddo yn Llansteffan i raddau amrywiol gan lifogydd. Er nad oedd y glawiad a gofnodwyd—19mm a 32mm, yn y drefn honno—yn eithriadol, roedd yn dilyn cyfnod gwlyb anarferol o hir a oedd yn golygu bod y ddaear yn dirlawn. Cyfrannodd hyn at fwy o ddŵr wyneb ffo a oedd wedi gorlethu cyrsiau dŵr lleol. Gwaethygwyd y llifogydd ymhellach gan y ffaith bod gollyngfa allweddol wedi'i chladdu o dan y traeth, gan atal draenio effeithiol rhwng y ddwy storm.

Er mwyn deall y digwyddiadau a'r effeithiau, cynhaliwyd tair sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mis Ebrill 2024 a oedd yn caniatáu i drigolion a effeithiwyd rannu eu profiadau. Bu'r ymchwiliad hefyd yn adolygu ymdrechion ymateb asiantaethau allweddol, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Daw'r adroddiad i ben gyda chyfres o gamau gweithredu sydd â'r nod o wella gwaith rheoli perygl llifogydd, gwella gwytnwch cymunedol, ac adolygu gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau gweithredol.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers y digwyddiad hwn yn Llansteffan, ond mae fy meddyliau gyda'r rhai yn y gymuned leol a effeithiwyd gan y llifogydd ac sy'n dal i gael eu heffeithio gan eu heffaith ddinistriol.

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn croesawu cyhoeddi'r Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd a byddwn yn goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion drwy grŵp prosiect amlasiantaeth y byddwn yn parhau i'w gadeirio yn y tymor byr. Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio'n agos â'r holl awdurdodau perthnasol a'r gymuned leol i helpu i leihau perygl llifogydd yn y dyfodol a gwella parodrwydd.”

Mae'r fersiwn llawn o Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Llansteffan ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn y gwanwyn i ymgysylltu â thrigolion ynghylch canfyddiadau'r adroddiad ymchwilio. Bydd amser, dyddiad a lleoliad yn cael eu rhannu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk