20 Chw 2025
Bydd merch o Gaerfyrddin yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Senedd Ieuenctid y DU (UKYP) eleni.
Ochr yn ochr â 300 o Aelodau Senedd Ieuenctid eraill (MYPs) bydd Evie Somers, o Goleg Sir Gâr, yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion allweddol sy'n effeithio ar bobl ifanc yn Nhŷ'r Cyffredin, San Steffan ar 28 Chwefror.
Etholwyd Evie, sy'n un ar bymtheg oed, yn Aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Sir Gaerfyrddin, ym mis Awst 2024 a bydd yn sefyll am ddwy flynedd. Mae Aelodau Senedd Ieuenctid yn 11 i 18 oed ac yn cynrychioli barn eu cyfoedion.
Mae Evie wedi bod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (CYC) am y flwyddyn ddiwethaf. Sefydlwyd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2003 gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gyda 19 o bobl 11 – 21 oed o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn gweithredu fel llais i bobl ifanc y sir. Mae'r bobl ifanc yn cael eu cefnogi gan swyddogion y Cyngor i sicrhau eu bod yn lleisio eu barn a bod oedolion a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gwrando arnynt drwy ddatblygu prosiectau neu ymgyrchoedd i dynnu sylw at faterion sy'n bwysig i bobl ifanc ac i sicrhau newid cadarnhaol.
Yn ystod y cyfarfod Blynyddol, a fydd yn cael ei lywyddu gan Siaradwr Tŷ'r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, gofynnir i'r bobl ifanc drafod a phleidleisio ar bum pwnc allweddol, y pleidleisiodd pobl ifanc o bob rhan o'r DU arnynt:
Wrth siarad cyn y profiad, dywedodd Evie:
"Mae cynrychioli fy nghyfoedion, eu profiadau a'u lleisiau yn un o'r anrhydeddau mwyaf. Bob tro rwy'n rhyngweithio â fy etholwyr, rwy'n teimlo'n ffodus i gyflawni'r rôl hon.
"Ers cael fy ethol, mae'r pum mis diwethaf wedi bod yn gyffrous ond yn llethol. Un uchafbwynt oedd mynychu'r Gynhadledd Flynyddol ym mis Hydref 2024, lle cwrddais ag Aelodau Senedd Ieuenctid o bob rhan o'r DU ac, mewn dau ddiwrnod yn unig, fe wnaethom ysgrifennu ein maniffesto cyfan. Mae profiadau fel hyn yn fy atgoffa o fy nghyfrifoldebau a'm dyletswydd i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:
"Hoffwn ddymuno'r gorau i Evie sy'n cynrychioli'r sir y mis hwn yn Senedd Ieuenctid y DU a hefyd am gael ei hethol yn Aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Sir Gaerfyrddin."
Gallwch wylio Cyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y DU yn fyw ar BBC Parliament neu sianel YouTube Senedd y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ewch i www.youthsirgar.gov.uk
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk