
Cyswllt brys y tu allan i oriau newydd y gwasanaethau cymdeithasol yn mynd yn fyw 18 Chwefror
New social services out of hours emergency contact goes live February 18th
Mae rhif newydd i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol mewn sefyllfaoedd brys y tu allan i oriau gwaith arferol bellach a chanolfan alwadau dwyieithog wrth law i gefnogi trigolion.
Bydd galwadau i'r Tîm Dyletswydd Brys yn cael eu hateb y tu allan i oriau gan Galw Gofal, gwasanaeth tosturiol, cefnogol a phroffesiynol sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo trigolion gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar ddiwrnodau gŵyl banc.
Mae'r tîm wedi'i hyfforddi i drin ystod eang o alwadau gofal cymdeithasol brys.
Mae Tîm Dyletswydd Brys Cyngor Sir Penfro yma i helpu pobl sydd â phroblemau personol, teulu neu lety a allai fod wedi cyrraedd pwynt argyfwng ac na allant aros tan y diwrnod gwaith nesaf.
Gall hyn gynnwys anawsterau gyda phlant a phobl ifanc, pryder am blentyn y tu allan i'ch teulu, problemau iechyd meddwl acíwt, pobl hŷn neu bobl ag anabledd mewn perygl a chyngor am lety brys.
Bydd tîm Galw Gofal yn cysylltu â'r tîm dyletswydd brys ac yn trefnu cyswllt â gweithiwr cymdeithasol profiadol.
Mae'n anodd meddwl yn glir pan fydd argyfwng, a gellir helpu llawer o alwyr drwy roi cyngor iddynt dros y ffôn. Os oes gennych weithiwr cymdeithasol eisoes, gall y tîm gynnig cyngor i'ch helpu hyd nes y gallwch wneud cynlluniau newydd gyda'ch gweithiwr cymdeithasol, a gallant anfon neges ato i roi gwybod beth sydd wedi digwydd. Os nad oes gennych weithiwr cymdeithasol, gellir gwneud atgyfeiriad i'ch tîm gwaith cymdeithasol lleol yn ystod y dydd os byddai hyn yn helpu'ch sefyllfa.
Bydd y rhif cyswllt brys y tu allan i oriau newydd - 0300 123 5519 - yn mynd yn fyw ar 18 Chwefror.
Gall unrhyw un sydd â phryderon neu broblemau yn ystod oriau gwaith gysylltu â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551.