English icon English
Plentyn yn paentio gyda phaent lliwgar

Dyddiad Cau ar gyfer Cais am Le Mewn Meithrinfa

Nursery place application deadline

Gwahoddir rhieni/gwarcheidwaid plant yn Sir Benfro a anwyd rhwng 01/09/2022 a 31/08/2023 i wneud cais am le mewn meithrinfa ar gyfer Ionawr, Ebrill a Medi 2026 erbyn y dyddiad cau, sef 30 Ebrill 2025.

Bydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl 30 Ebrill 2025 yn cael eu hystyried yn rhai hwyr a allai effeithio ar a fydd y plentyn yn cael lle yn yr ysgol o’ch dewis.

Mae’n bwysig nodi na fydd unrhyw le mewn ysgol yn cael ei ddyrannu oni bai bod cais ffurfiol yn dod i law.

Mae’r ffurflen gais ar-lein i’w chael ar wefan Cyngor Sir Penfro: www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-a-dysgu o dan ‘Gwneud Cais am Le mewn Ysgol’. 

I gael gwybodaeth am ba dymor y byddai eich plentyn yn ymuno â meithrinfa, dilynwch y ddolen hon i’n Gwybodaeth i Rieni sy’n nodi’r tymhorau yn seiliedig ar ddyddiad geni eich plentyn ac i ba ysgol yr ydych yn gwneud cais.

Nid oes angen ail-ymgeisio os ydych eisoes wedi cyflwyno ffurflen gais.  Gallwch weld eich ceisiadau cyfredol trwy fewngofnodi i’ch cyfrif, Fy Nghyfrif, ac i'r adran ‘Ysgolion a Dysgu’, ‘Derbyniadau a Thrafnidiaeth Ysgol’.

Atgoffir rhieni/gwarcheidwaid nad yw mynychu meithrinfa mewn ysgol yn gwarantu lle cynradd (i ddechrau ym Medi 2027) ac mae angen cyflwyno cais ar wahân ar gyfer hyn. Gellir cyflwyno'r cais hwn ar yr un pryd â'ch cais am feithrinfa.

Bydd rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod am leoedd meithrin erbyn 31 Gorffennaf 2025.